Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwrn o, "Tad anwyl! Mi fasa'n dda imi tae eich redi recynar chi gin i pan ddechreuis i werthu llaeth yn Llundain! Mi faswn yn wr boneddig ars hir amsar."

"Mi rydach chi'n hyny erioed, Mr. Davies, neu fasa chi ddim wedi medru pyrswadio Claudia i'ch priodi chi," ebra Eifionydd, gan boeri ar yr haner sofren oedd yn y deuddeg swllt, a'i rhoid hi yn mhocad i wasgod.

Mae'n siwr gin i i fod o wedi dallt rywsut fod Claudia o fewn cyrhaedd clyw, a dyma hi'n mlaen ac yn gwenu arno fo ac yn deyd, yn Gymraeg:

"Mi ryda chi'n ddyn craff, Eifionydd. Rhowch f'enw inau lawr am y Geninen."

A chyn 'madal gorfu imi addo ysgrifenu erthygl iddo i'r Geninen ar "Lefrith Cymru a Llaeth Llundain" — ond ddaru o ddim addaw talu imi am dani chwaeth!

Gyda hyn dyma Vinsent i fyny wedyn, ac yn introdiwsio dau ddyn arall imi, sef Dr. Isambard Owen a Llew Tegid. Mi adwaenwn enw'r doctor fel un o'r Cymry sy'n dringo'n uchel iawn yn Llundain, ac mi wyddwn rywbeth am ei wasanaeth o i achos addysg yn Nghymru, ac mi roedd yn dda gin y nghalon i ddod i'w adnabod o. Wedi peth sgwrsio, ar fan bethau,

"Mi ryda ni'n edmygwyr mawr o'ch ysgrifa chi yn Y Genedl, Mr. Dafis," ebe'r Llew, "ac mi rydan am eich perswadio chi i fabwysiadu orgraff Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eich holl weithiau llenyddol o hyn allan.”

"Be 'di hono, deydwch?" gofynais.

"Mi ryda ni wedi penodi pwyllgor ars dwy flynedd i gymeryd cwestiwn yr orgraff mewn llaw," ebe Dr. Owen. "Mi roedd Proffeswr Rhys yn gadeirydd i'r Pwyllgor, a rhyw ddwsin o Gymry dysgedig yn aelodau, a'r amcan oedd tynu allan reolau am orgraff Gymreig syml a chyson