Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/157

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w harfer yn yr ysgolion drwy'r wlad. Ac mi rydan ni yn gobeithio gweled ein cyhoeddwyr a'n prif ysgrifenwyr i gyd yn mabwysiadu'r cynllun yma, fel y ceir unffurfiaeth orgraff yn lle pob un a'i orgraff ei hun fel sydd ganddo yn

"Tydw i ddim yn rhyw gredwr mawr mewn pethau newydd," meddwn ina.

"Cweit so," medda Dr. Owen, "a dyna pam ryda ni am i chi ystyried hawliau'r orgraff yma. Nid un newydd mo honi, ond casgliad o holl rinweddau hen orgraff lenyddol cenedl y Cymry o'r adeg pan oedd Cymraeg yn iaith mor ddysgedig ag yw Lladin heddyw."

Welis i neb 'run fath a Dr. Isambard Owen erioed. Mi wneith i chi gydolygu âg o trwy gymyd arno'i fod o'n cydolygu a chwi. Os codwch chi wrthddadl yn erbyn yr hyn fyddo gyno fo, eith o ddim i ddadla'ch bod chi'n camgymeryd, ond mi ddyfyd "Cweit so," ac mi gymith yr hyn fyddwch chi wedi ddeyd ac mi'ch crogith chi ag o nes y teimlwch y rhaid i chi gredu 'rhyn mae o yn ei gredu. Mi ddois i i adnabod y wedd yma yn ei gymeriad wedi hyn.

Wedi i'r doctor fy rhoid i yn esmwyth felly ar wastad fy nghefn, dyma'r llall yn cymyd y fantais ar fy nghyflwr diamddiffyn.

"Dyma gopi o'r adroddiad i chi, Mr. Dafis," ebe Llew Tegid gan estyn llyfr testlus imi.

"Faint ydi bris o?" gofynais, gan feddwl dod allan o honi yn rhad felly.

"Deuswllt ydi bris o, ond mi rydw i am i chi gymyd y copi yma fel anrheg bach," ebra fo.

Cyn imi gael amsar i ddiolch iddo am ei haelioni, dyma fo'n mynd yn mlaen.