Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond gyda llaw, mae eisio arian ar y Gymdeithas i gario'r gwaith yn mlaen, ac mi fydd yn reit dda gynon ni'ch cael chi'n aelod."

Ac felly bu, cefais fy ngodro o gini arall yn y fan; a chyn i mi allu troi ffwrdd dyma Claudia i fyny a'm hen ffrynd Dilys, merch Mynorydd, yn ei braich,-Mrs. Glynne Jones 'rwan. Ac mi roedd yn rhaid rhoi gini arall i hono at Gymdeithas Addysg Uwchraddol y Merched, fel rhwng pob peth lle go ddrud i ddyn sy'n caru ei wlad yw'r Steddfod hefyd.

Ond mi wrthodis gymyd teitl er i Vinsent gynyg cadw cwmni imi, a chymryd i urddo 'run pryd a mi.

Un o arwyddion yr amserau ydi'r sylw a'r parch cynhyddol sy'n cael ei dalu'r dyddiau yma i'r beirdd ac i'r Orsedd, hyny ydi, Gorsedd y Beirdd. "Tydw i ddim am benderfynu f'hun be sy'n cyfri am hyny, chwaith, prun ai bod y beirdd yn dod yn gallach, neu, fel y myn rhei, fod y byd yn mynd yn wirionach; p'run ai am fod y Proffeswr Morris Jones yn mosod ar yr Orsedd, neu fod Cadvan yn gaddo llyfr i'w hamddiffyn; p'run ai'r pethau hyn, ai ynte'r ffaith fod Claudia wedi cymeryd y sefydliad o dan ei nawdd, ac yn bygwth fy ngwneud i'n Aelod Urddasol o'r Orsedd, tydw i ddim am benderfynu'r cwestiwn, ond saif y ffaith yr un fod llinellau Barddas Cymru heddyw wedi syrthio mewn lleoedd hyfryd, ac fod pethau'n lled awgrymu fod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar feddianu etifeddiaeth deg.

Tydw i ddim yn gwybod llawer f'hun ynghylch beirdd a barddoniaeth, ond 'nol 'rhyn ydw i wedi glywad ynte, 'toedd y genhedlaeth hono yn yr oes o'r blaen ddim yn rhyw nodedig iawn am eu dysg na'u moes. Y dafarn oedd eu hoff gynhullfan, ac yn mharlwr y dafarn fel rheol y cynhelid "Cyfarfod y Beirdd" ynglŷn â phob Steddfod ars