Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

talwm-neu felly clywis i. Os gwir hyny tydw i'n synu dim ddarfod i'r pwlpud ar un adeg droi cefn ar y Steddfod. Ac eto wrth gofio, nid trwy droi cefn ar bechadur mae ei achub o. Dyna be wnaeth yr offeiriad a'r Lefiad rheiny ars talwm hefo'r truan a syrthiodd yn mhlith lladron, ynte? Ond mi roedd yn gofyn cryn dipyn o ddewrder moesol ar ran dynion fel yr Archddiacon Griffiths o Gastellnedd, a Chaledfryn, a Chynddelw, a dynion felly, i ddod allan pan wnaethon nhw i ymgeleddu'r Steddfod pan yn ymdrabaeddu yn llaid ffosydd Cymdeithas. Ond trwy eu dewrder hwy, a rhei o'u bath, dyrchafwyd yr anghenus o'r tomenau, ac erbyn heddyw eistedda'r beirdd yn nghwmni pendefigion y ddaear. Nid yn long rwm y dafarn y cynhelir Cyfarfodydd y Beirdd mwyach, ond yn Neuadd y Dre, neu Llyfrgell Prifysgol; nid yn y tap rwm y cewch y Bardd Cadeiriol yn mygu ei bibell bridd, ond yn mhalasdy pendefig yn smocio sigars sy wedi costio haner coron yr un. Rhyfadd y gwahaniaeth, ynte?

Felly hefyd am Orymdaith y Beirdd, a Chyfarfodydd yr Orsedd. Bu'r blaenaf o fewn co rhei sy'n fyw, yn ddim gwell na rhyw fath o efelychiad o orymdaith plant Ysgol Sul. Ond 'rwan, a barnu oddiwrth y pwys a osodir arni, tydi'r Lord Mayor's Show yn Llundain ddim ati. Ac am yr Orsedd, tydi'r pyrth ddim 'rwan fel 'roeddan nhw gynt yn lled agored i'r neb a fynai ddod i fewn iddi. Mae tywysogion yn dadmaethod, a thywysogesau yn famaethod iddi, a phendefigaeth Cymru yn caru rhoi anrhegion o aur a pherlau iddi. Dyna Syr Arthur Stepney, ynte, wedi rhoid Baner odidog iddi; dyna Herkomer, drwy help Claudia, wedi dyfeisio gwisgoedd iddynt fel na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant yn debyg i Fardd Gorseddog yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac yn ben