Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/163

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byth yn gwneud gwahaniaeth rhwng person a phregethwr, na rhwng Tori a Libral ynglŷn â'r Steddfod."

"Campus!" meddwn ina. "Mae Enwadaeth yn un o felldithion Cymru, does dim dwywaith!"

"Ydi," medda fo. "Ond dim politics ydi arwyddair y Steddfod."

"Ie, ynte?" meddwn inau. "Dyna pam ddaru i rei o'r pura godi cymint o dwrw am fod Gladstone arstalwm wedi cael ei wahodd i anerch yr Eisteddfod yn Ngwrecsam ynte?"

"Hym! hym!" ebra fo, gan besychu fel tasa tamad o fwyd wedi mynd go chwith i'r bibell gyntho fo. "Fel 'roeddwn i'n deyd, mi ryda ni wedi llwyddo i gael gyn Lord Penrhyn i fod yn President of ddi Eisteddfod; ies, President of ddi Eis-teddfod, mei diar syr! Ac mi ddaw o a'r Twsog, a'r Dwsoges, a'r Twsogesau bychin, i gyd hefo fo i'r Steddfod. Ddi most briliant fyncshon of ddi êj, mei diar syr," ebra fo, gan chwifio'i tebl napcyn fel yr eneth hono yn y gân yn "Chwifio'r Cadach Gwyn." Ac mae'r Prinsess Beatris eisys wedi gaddo beirniadu'r gwaith gwnio yn y Steddfod acw."

"Da iawn," meddwn ina. "Mae hi'n siwr o fod yn dallt ei gwaith yn iawn. "Toes dim at y Tywysogesau Brenhinol yma am wbod y ffordd i wnio, ynte 'rwan? Ydach chi am gael y Prinsess of Wêls i feirniadu testyn y Gadair? A'r Diwc of Yorc i feirniadu'r prif gystadleuaeth gorawl? Piti na fasa gyno chi un gystadleuaeth arall hefyd." "Be 'di hono?" gan droi ata i dipyn yn amheus. "Rasus ceffyla," ebra fi, gan sbio'n ddyfal ar y plât o mlaen i.

"Rasus ceffyla?" gofynai yntau yn syn. "Pam 'da chi am gael rasus ceffyla ynglŷn â'r Steddfod?"