Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O," ebra finau, gan godi ngolygon i'w wynab o. Mi gawsach y Prins of Wêls i feirniadu'r gystadleuaeth hono hefo Lord Penrhyn."

Mi ddeydodd rhwbath rhwng i ddanadd na fydda i ddim yn leicio'i sgwenu o fan yma, a throdd i sgwrsio a'r dyn oedd yn eistedd yr ochor arall iddo, a chefis i run gair gyno fo am y gweddill o'r ginio.

Wel, mi basiodd pob peth yn hwyliog iawn,—yr areithio a phob dim. Ac yn mlaen yn mhell yn yr hwyr, ar fin canol nos, dyma air yn dod imi y basid yn disgwyl anerchiad gyn i.

"Toeddwn i ddim wedi bwriadu siarad, a 'toedd gyn i 'run spîtsh yn barod, a wyddwn i ar y ddaear be wnawn i. Ond mi fuodd rhagluniaeth a'r Cadeirydd yn garedig dros ben wrtha i. Mi drefnodd y blaena i erill gymyd llawar o amsar, ac mi drefnodd yr ola imi fod y pregethwr dweutha. Wedi i bawb gael deyd ei stori, dyma'r Cadeirydd ar ei draed:

"Jentlmen!" ebra fo, " Mr. Dafydd Dafis of Lyndon wil now ffefyr ys widd his adres, hwitsh, Ei am shiwar, wi shal ol bi dileited tw hiar."

A dyma hi'n gymeradwyaeth fyddarol.

Gwelis fy ffordd allan o honi, a dyma fi ar fy nhraed mewn winciad. Pan ostegodd y curo traed a dwylo, ebra fi'n reit dawal:

"Mr. Tsherman! Iw haf ascd mi ffor mei adres. Mei adres is Nymbar 963, Park Lane, Lyndon, and Ei wish ddi Eisteddfod efri sycses, and Ei wish iw ol gwd neit"—ac allan a fi ar f'union yn nghanol chwerthin cyffredinol y bobol a syndod y Gadair.