Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XV.

HOGI'R ARFAU.

Cyfarfod arall o'r Blaid Cymreig—Complit Letar Reitar y Blaid—Rathbone a Sam Evans yn gwrthwynebu—Salwch Bryn Roberts—Y Ffeiting Mejor—Stiwart Rendel i'r Ffrynt—Cân Alfred Thomas—Syr Edward Reed a'r Major—Penau'r Bregeth a'r Casgliadau.

Ddeyda i ddim sut y daethum i wybod yr hanes. Mi gafodd Mabon, druan, gymaint o'i ddwrdio— neu ei 'gymheni" ys dywed efe—am fy mod i wedi bod yn ymguddio dan y bwrdd y tro o'r blaen pan gynhaliodd yr Aelodau Cymreig eu Seiat yn y Tŷ, fel yr wyf finau wedi cymyd fy llw na ddeyda i ddim y tro yma sut y cefis i fynd i Nymbar Ffifftin y Cymry y dydd Gwener dan sylw, na chwaeth sut nac yn mha le yr oeddwn yn ymguddio yno. Mi fydd yn dda i mi gael cyfle i fynd yno ryw dro eto, a chyn na tydw i ddim wedi deyd wrth Claudia, tydw i ddim yn debyg o ddeyd wrth neb arall!

Ond dyma'r hanes yn fyr i chi, a mi ddiffeia i Lloyd George na Stiwart Rendel, na neb o honyn, nhw i ddeyd nad yw fy stori i yn hollol iawn a chywir y tro yma fel y tro cynt.

Mi gwarfyddodd yr Aelodau Cymreig, gryn ugain o honyn nhw, yn y gyfeillach, dydd Gwener, i hogi arfau i ymladd dros Ddadgysylltiad. Y cwestiwn dan sylw'r gyfeillach oedd prun ai fasant yn danfon llythyr at Gladstone ai peidio; ac os gyru, pa beth iw roid ynddo fo.