Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi welwch felly fod cwestiwn digon dyrus gyni nhw i'w benderfynu.

Dwn i ddim sut i gyfri am hyny, ond mi gafodd Lloyd George ei benodi yn "Complît Letar Reitar" i'r Pwyllgor Cymreig yn y Senedd. Fo fydd yn tynu allan y copi cynta o'r llythyrau fydd yn mynd at Mr. Gladstone dros y Blaid. Mi ofynis i i Tom Ellis pam 'roeddan nhw'n dewis Lloyd George at y gwaith hyn.

"Wel, mi ddeyda i chi, Mr. Dafis," eba Tom yn y nghlust i. "Tydi George byth yn atab llythyr, ac mi rydan ni'n meddwl fod ganddo fo felly fwy a amser i ysgrifenu at yr Hen Wr nag sy gan neb arall o honom ni sydd yn ofalus am dalu ein dyledion llythyrol."

Wel, mi ddarllenodd Herbert Lewis y copi oedd Lloyd George wedi ei dynu allan, a dyma hi'n ferw gwyllt yn y fan. Mi roedd Mr. Rathbone yn groes i yru o gwbl am nad oedd o'n foddlon i neb ond fo i wrthryfela'n erbyn Gladstone. Mi roedd Sam Evans yntau'n tynu'n groes am i fod o'n tybied fod Gladstone wedi cael digon o rybudd bellach. "Toedd Bryn Roberts ddim yno;—tydi o ddim wedi bod yn reit iach byth er yr affternwn ti hwnw gafodd o yn ein tŷ ni; ond 'dwn i ddim prun ai'r tê, ai'r cêc, ai prisyrfd jinjyr tafod Claudia sydd wedi peidio dygymod a'i gylla fo; ond gan nad prun am hyny 'toedd o ddim yno.

Ond mi 'mladdodd George fel dyn dros yru'r llythyr, a thros ddeyd y gwir yn reit blaen yntho fo hefyd. A mi baciwyd o i fyny yn iawn gan y Mejor. Mi rydw i'n hoffi'r Mejor yn arw iawn. Mae i lond o o blycer nad ydi lond o ddim rhyw lawar chwaith. Pan ga i amsar ryw dro mi ddeyda i wrthach chi sut y daethymi i nabod y Mejor y tro cynta 'riod. Ond fel y deydais i, mi