Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'mladdodd fel dyn gyda Lloyd George yn musnes y llythyr yma.

A phwy arall ddyliech chi oedd yn curo cefn Lloyd George, ac deyd "ffeiar awei machgen i" wrtho fo pan yn dadleu dros yru llythyr cryf at Gladstone? Wel, pwy hefyd ond Stiwart Rendel! Chwara teg iddo fo! Dyn reit glen ydi Stiwart Rendel hefyd wedi'r cwbwl! Er fod i ferch o wedi priodi mab Mr. Gladstone, ac er i fod ynta'n disgwyl cael i wneud yn Lord gan yr Hen Wr, 'roedd o'n bacio Iyng Wels i'r pen yn y fusnes yma. Wel, mi rodd o, ac Osborn Morgan, a Sam Smith, ac Alfred Thomas wrth gwrs, yn ymladd gyda'r Iyng Wels parti, a Tom Ellis yn siarad mor groew a neb o honyn nhw. Son am gau ceg Tom Ellis wir! Mi fasa mor hawdded cau ceg Claudia pan fydd yr hwyl i fyny ag a fyddai i stopio Cynlas i ddeyd ei farn pan fo Cymru yn y cwestiwn.

Ond doniol o beth oedd gweled Dafydd a Jonathan, Lloyd George a Sam Evans, yn tynu'n groes i'w gilydd, a chlywed Alfred Thomas yn mwmial canu iddo 'i hun wrth eu gweld nhw :

Cyfnewidiol ydyw dynion,
A siomedig yw cyfeillion,
Fi sy'n para byth yn ffyddlon
I hawliau'm gwlad!

Ond nid diffyg ffyddlondeb i achos Cymru oedd yn gwneud i Sam dynu'n groes chwaith. 'Toes neb o honyn nhw wneith ymladd yn well na fo os bydd eisio.

Wel, mi gariodd yr adfanst secshyn, fel y gelwir nhw, y dydd, a phenderfynwyd gyru llythyr cryf at Mr. Gladstone; ac yna mi roedd yn rhaid ail ddarllen copi Lloyd George, a phawb wrthi am i ora yn pigo beiau yntho fo. Mi roedd Sam Evans yn beio'r peth hyn, a Rathbone y peth arall, a