Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syr Edward Reed y cwbwl, nes i Stiwart Rendel waeddi allan: "Bobol anwyl! mae'n rhwyddach lawar i un ysgrifenu llythyr nag yw i ugain ohonon ni.”

"Wel, rhoswch chi fynud," ebra Syr Edward Reed, wedi darllen y frawddeg gynta. "Be yda'n ni'n mynd i wneud os na neith Mr. Gladstone wrando arnom ni? Ydan ni'n barod i'w droi o dros y drws, deydwch ?"

"Begio'ch pardwn chi, Mr. Cadeirydd," ebe'r Mejor, "mae Syr Edward yn rhoid y cart o flaen y ceffyl. Gadewch i Mr. Gladstone wrthod gynta, ac mi gawn i ystyried beth wnewn ni ar ol hyny wedyn. Byddai mer gynamserol ini benderfynu beth nawn ni os na wrendy Mr. Gladstone arno ni, ag a fyddai i etholwyr Caerdydd benderfynu beth nelsen nhw pe bae Syr Edward yn fotio yn erbyn Gladstone ar Hom Riwl."

Mi drychodd Syr Edward fel teigar, ond chymodd y Mejor ddim sylw o hono fo.

Wel, felly buodd hi. Mi basiwyd y llythyr bob yn rhan, gyda newid rhyw 'chydig arno, a Lloyd George yn tynu ochenaid ddofn wrth welad amball i frawddeg oedd wedi peri poen iddo ef yn yr esgoreddfa lenyddol, yn cael ei thaflu heibio'n ddiseremoni gan Sam Evans neu rywun arall. Ond mi basiwyd y llythyr o'r diwedd. Mae'r llythyr yma, fel yr hen bregethau ers talwm, yn rhanu ei hun yn naturiol i dri phen.

Yn gyntaf.—Fod y Blaid Rhyddfrydol yn y Newcastle Program, yn ddiamheuol wedi rhestru Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru yn nesaf at Hom Riwl.

Yn ail.—Fod Cymru yn disgwyl i'r Llywodraeth gario allan y Program a chyflawni'r addewid i Gymru.

Yn drydydd ac yn olaf.—Fod yr aelodau Cymreig yn disgwyl i Mr. Gladstone roi addewid pendant y dygir mesur cyflawn o Ddadgysylltiad gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf.