Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna benau'r bregeth. Fel pob pregeth gryno y mae iddi ei "chasgliadau" ar y diwedd. Tydi'r llythyr ddim yn deyd "Casglwn oddi wrth yr hyn a ddywedwyd,"ond mae yn golygu hyny. A dyma'r casgliadau:—

Casglwn yn nghyntaf.—Os na wna'r Aelodau Cymreig eu dyledswydd drwy wasgu yn mhob modd ar y Llywodraeth i gyflawni disgwyliadau Cymru, y gall yr aelodau esgeulus ddweyd "gwd bei" i'r Senedd yn yr etholiad nesaf.

Casglwn yn ail.—Os gwrthoda y Llywodraeth wrando ar gais a chwyn yr Aelodau Cymreig, nas gall y Llywodraeth ychwaith gyfrif mwyach ar bleidlais na chymorth y Cymry mewn materion Seneddol.

Dyna, yn fyr ac yn gryno, gynwys a natur y llythyr y penderfynwyd o'r diwedd ei yru at Mr. Gladstone. Ond tae chi'n gwelad rhei o'r Aelodau ar ol gyru'r llythyr! Welsoch chi blant drwg erioed yn mynu lluchio ceryg at ffenast, nes tori'r gwydr, ac yna yn ffoi am eu heinioes rhag cael eu dal? Os do, mae gyno chi ryw syniad sut 'roedd rei o'r Aelodau Cymreig yn teimlo ar ol gyru'r llythyr yma, lluchio'r garag yma welwch chi, at Mr. Gladstone. Brolio'u bod nhw wedi gwneud—ac ar yr un pryd yn crynu yn eu sgidia rhag ofn y canlyniadau. Pwar ffelos bach o honyn nhw, yntê?

Mi ddois i i wbod sut dderbyniad gafodd y llythyr gin Gladstone, a sut atebiad a roddodd yntau iddo fo—ac mi ddeyda i chi yn y man y cwbl am hyny hefyd.