Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.

YR OGOF GYMREIG.

Beth yw Ogof Seneddol?—Ogofau Chamberlain a Rathbone—Ogof Adulam y Cyfieithiad Diwygiedig—Y Pedwar Ogofwr—Pam na bai Ellis a Lloyd George yn joinio—Esboniad Dafydd Dafis—Y Plans a'r Spesificeshyns—Yr Arcitect a'r Contractor.

Mae ambell un o fynyddoedd prydferth Cymru wedi ei ridyllu ag ogofau. Gall ymddangos yn hardd a chadarn yr olwg oddiallan, ond ceir wrth fanylu arno fod yr ogofeydd yma yn treiddio i mewn i'w galon.

Ond be ddyliech chi 'rwan am Ogof yn y Senedd? Nid ystafelloedd ydw i'n feddwl, cofiwch, ond ogofeydd tebyg i'r rhai lle y llecha ysbeilwyr yn y Dwyrain, yn barod i neidio allan ar y teithiwr diofal, ei ddal yn anmharod, a'i anrheithio. A be ddyliech chi hefyd, 'rwan, am ddynion parchus a synhwyrgall, yn ymdrafferthu ddydd ar ol dydd i greu ogofau o'r fath, ac i ddenu rhai o'u cyd—aelodau i fewn gyda hwy iddynt? Ac eto mae pethau felly yn bod; y mae creu ogof yn un o Gelfau Cain y Senedd; ac mae'r medr—neu ei ddiffyg—ddangosir i wneud ogof, yn nodi graddau dylanwad a thalent yr ogofwr.

Amcan "ogof" yn y Senedd ydi dymchwelyd y neb sydd mewn awdurdod. Ffurfir hi gan amlaf yn mhlith canlynwyr y Llywodraeth, gyda'r amcan o daflu gweinyddiaeth allan o swydd; ond ceir y sefydliad hefyd weithiau ar droed yn mhlith yr Wrthblaid. Drwy ogofau