Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/171

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly y daeth Randolph Churchill, a Balfour, a Syr John Gorst, a Syr Michael Hicks—Beach, i sylw a dylanwad. Mi roedd yr ogof hono wedi ei malurio yn chwilfriw cyn f' amser i; ond mae traddodiadau lu am dani eto'n fyw yn lobis Tŷ'r Cyffredin. Un o'r ogofau hynotaf a ffurfiwyd erioed ar dir cysegredig Ceidwadaeth oedd hono. Cydnabyddai pawb na fu dim pedwar ogofwr galluocach erioed yn gasgledig yn yr un ogof na'r pedwar hyn. A gellid dweyd am danynt yn ngeiriau'r Ysgrythyr—" Ni chyll un o honynt ei wobr!" Mae'r safle enillodd y pedwar yn nghyngor Toriaeth yn dangos be 'di gwobr ogofydda llwyddianus.

Fel rheol gellir cymeryd yn ganiataol fod y rhai sydd yn ffurfio neu yn mynychu ogof, naill ai eisoes wedi myned i dir gwrthgiliad, neu eu bod yn mhell ar y ffordd yno. Fel yr awgrymais, fel y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly mae gwahaniaeth dirfawr rhwng ogofwr ac ogofwr. Un o'r rhai mwyaf llwyddianus yn mhlith crewyr ogofau y genhedlaeth hon yw Chamberlain. Mae yr ogof ffurfiodd ef yn 1886 eto'n aros,—er fod ei mynychwyr hithau yn myned yn llai bob dydd. Enghraifft nodedig o'r ogofwr aflwyddianus, ar y llaw arall, yw Mr. Rathbone. Arfaethodd ef, fel y gwyddom, lunio a chreu ogof fawr ar un o adranau Hom Riwl, gan ddisgwyl y caffai ei llond hi o ganlynwyr. Ond wedi iddo ei gwneud, a'i dodrefnu'n gysurus, ac edrych i weled pwy oedd ganddo y tu cefn iddo, cododd ei ddwylaw gan ddeyd, "Hawyr ble mae'r lleill?" "Toedd neb yn ei ganlyn!

Wel mi gefis inau'r fraint o weled Cymry wrthi yn ceisio gwneud ogof y dydd o'r blaen yn Nhŷ'r Cyffredin. Os ydych am gael hanes yr ogof gyntaf, chwi a'i cewch yn cynta Samuel, yr ail benod a'r hugain, a'r ddwy adnod