Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/172

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaenaf. Rhag nad ydi'r Beibl genych wrth law, ac nad ydach yn cofio'r adnodau, mi a'u rhoddaf yma.

"A Dafydd a aeth ymaith oddiyno ac a ddiangodd i ogof Adulam; a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hyny, hwy a aethant i waered ato ef yno. Ymgynhullodd hefyd ato ef bob gwr helbulus, a phob gwr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy; ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr."

Gellir cymhwyso yr adnodau uchod, neu o leiaf ranau helaeth o honynt, yn llythyrenol at yr ogof Gymreig yr ydw i'n son am dani 'rwan. Gweler er enghraifft mor darawiadol mae'r sentans gyntaf a'r olaf o honynt—dim ond tynu un gair bach allan o'r olaf, fel hyn 'rwan:

(1)"A Dafydd a aeth (2)oddiyno ac a ddiangodd (3)i ogof Adulam; ac yr oedd gydag ef ynghylch (4)pedwar o wŷr."

Pe tawn i yn gwneud Beibl Peter Williams Seneddol newydd 'rwan, ac yn rhoid nodiadau eglurhaol, buaswn yn rhoid y nodiadau a ganlyn ar ol yr adnodau uchod:

1. Dafydd. Nid brenin Israel, ond olynydd Henry Richard, sef Dafydd A. Thomas, yr Aelod hynaf dros Ferthyr. Dywed ereill mai Dafydd Randel, yr Aelod dros Fro Gwyr, a feddylir,—ond y cyntaf yw'r mwyaf tebygol.

2. Oddi yno, h.y., o ystafell Pwyllgor yr Aelodau Cymreig, lle yr oeddid wedi darllen llythyr Mr. Gladstone ar Ddadgysylltiad, a'r ogofwyr wedi ffromi yn aruthr.

3. I ogof Adulam, neu mewn geiriau ereill, i ffurfio Plaid Gymreig Anibynol ar y Blaid Ryddfrydol.

4. Pedwar o wyr. Gadewir y gair "cant" allan yn y Cyfieithiad Diwygiedig.

Ond nid gwneud Beibl na 'Sboniad yw f'amcan na'm gwaith i, ond adrodd yr hyn a welis ac a glywis i yn y Tŷ y noson fythgofiadwy hono. Y dwthwn hwnw, fel y gŵyr y rhai ddarllenodd y benod flaenorol o'r Llyfr Cronicl yma, yr oedd y Blaid Gymreig yn cyfarfod am yr ail waith i