Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyried llythyr Mr. Gladstone. Gan y mod i'n gwhod cynwys y llythyr—mi rois grynodeb o hono eisys—a chan y mod i'n gwbod hefyd y cawswn i hanes y cwarfod i gyd heb drafferthu i fynd iddo, mi eis i gyda Claudia i Regent Street i siopa. "Toes dim niwed siopa yn Regent Street— ar hyd y dydd. Felly, pan eis i i lawr i'r Tŷ, mi roedd y cwarfod wedi tori i fyny, a'r Aelodau Cymreig yn y lobis. Wel, mi rodd y riportars i'r papyra yn ymgasglu o gwmpas yr Aelodau fel eryrod wedi arogli'r gelain; ond chwareu teg i'r Cymry maent hwythau erbyn hyn wedi dysgu un o wersi gora'r Gwyddelod—sef sut i ddal eu tafodau pan fo eisio. Er holl ymdrech y riportars, chawson nhw ddim ond y nesaf peth i ddim gan neb o'r Cymry. Mi roeddwn i, wrth gwrs, yn sefyll ar dir gwahanol i'r riportars, a chan mod i'n gwbod y rhan fwyaf o'r hanes o'r blaen, mi dybiodd yr Aelodau y bum yn siarad â hwy mod i'n gwbod y cwbwl, a chefis i ddim rhyw lawer o draffarth i gael gynyn nhw arllwys eu meddyliau allan yn go lwyr.

Ond ar ol scwrsio am chydig, mi welais yn un gornal o'r lobi bedwar neu bump o'r Aelodau wrthi'n brysur iawn hefo caib a rhaw; ac erbyn mynd atyn nhw, pwy oeddan nhw ond D. A. Thomas, a thri neu bedwar erill wrthi am eu bywyd yn ei gynorthwyo fo i wneud rhywbeth.

"Be 'dach chi'n neud, hogia?" eba fi.

"Gwneud ogof y'n ni," ebe'r Aelod dros Ferthyr.

"Ydach chi am i gneud hi'n un fawr, deydwch?" gofynis wedyn.

"'Ry ni am i neud e'n ddigon mawr i gynwys yr holl Aelodau dros Gymru," medda fo.

"Hym!" meddwn ina. "Un, dau, tri, pedwar!"

"Ydach chi am ganu clychau Aberdyfi, Mr. Dafis?" gofynai Mr.Thomas gyda gwên, gan wincio'n ddireidus ar y lleill.