Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/174

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wel mi fedra i gymyd jôc gystal a neb, ond mi welis i fod D. A. allan o hwyl, felly mi ddeydis yn reit short:

"Na, neu mi faswn yn deyd 'pump, chwech,'—a wela i ddim ond pedwar o honoch fan yma. Mae mwy na phedwar o Aelodau dros Gymru ond toes, 'rwan?

Ar hyn dyma fo'n taflu'r gaib oedd gyntho fo yn ei law i lawr, ac yn sychu'r chwys oddiar i dalcan, ac yn deyd:

"Oes, mae mwy na phedwar o Aelodau, ond dim ond pedwar dyn."

"Be 'di'r lleill ynte?" meddwn ina.

"Gwŷr y gyfraith ydan nhw, neu yn perthyn yn nghyfraith i'r Llywodraeth," ebra fo'n sarug.

"Yn ara deg, Mr. Thomas bach," ebra fina. "Gadewch ini ddallt ein gilydd. Bechgyn reit smart ydach chi'ch pedwar, ond mae yna ddynion cystal a chitha heb joinio a chi, ond 'toes? Dyna Tom Ellis er enghraifft?"

"O, mae Tom yn siarad 'rwan fel Jiwnior Lord of ddi Treshyri, ac nid fel Tom Ellis '86."

"Yn ara deg eto Mr. Thomas," ebra fina. "Mi rydw i'n adwaen Tom ers cryn amsar bellach, ac y mae o wedi gwneud cymint a neb dros Gymru, ac heb flino ar y job eto; ac mi wn i hyn, pan ddaw hi'n gwestiwn o neud y gora dros Gymru ar y naill law, neu ynte dros Gladston ar y llaw arall, mai bod yn ffyddlon i Gymru wneith Tom, ac aed Gladston i'w grogi. Ond beth am Sam Evans?”

"Wn i yn y byd beth sydd wedi dod dros Sam," ebra fo gan gosi ei gern yn fyfyriol. "Fe fu Sam o'n blaen ni i gyd unwaith, ond mae e wedi oeri yn ei sel 'rwan."

"Cymeriad hynod i fod yn Laodicead ydi Sam," meddwn ina. "Cymwch chi ngair i Mr Thomas, mae yna ryw reswm digonol gan Sam dros aros draw. Ond beth am Lloyd George?"