Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oh, mi fydd Lloyd George yn ddigon hir ei dafod yn y wlad yn anerch cyfarfodydd, ond pam na fyse fe'n joino gyda ni yn awr?"

"Wel, rhoswch chi dipyn bach Mr. Thomas," meddwn ina. "Nid un i fod yn dawal heb achos ydi George chwaith. Os oes rhywbath i'w enill i'r achos drwy fod yn dawal, mi fydd o'n dawal; ond os oes rhywbath i'w enill drwy ymladd, does yna ddim gwell 'mladdwr na fo yn y'ch plith chi i gyd. Ac heblaw hyny, fedar o ddim sefyll 'nol os bydd eisieu ar Gymru iddo fynd yn mlaen. Mi fasa Evan Jones, Moriah, yn tynu ei lygid o o'i ben o, ac yna'n cyhoeddi anathema maranatha uwch ben be fasa ar ol, pe tai o'n anffyddlon i Ddadgysylltiad. Mae'n reit siwr i chi, mi ŵyr Lloyd George be mae o'n i neud. A ble mae'r ddau Herbert? a Tomos Lewis? ac Osborn Morgan? a Frank Edwards? a Lloyd Morgan? a'r gweddill o'r Iyng Wêls? Os ydach chi am gael Ogof Gymreig, mynwch un fydd yn deilwng o Gymru, ac nid rhyw ddrychiolaeth o beth fel hon!" ac mi roes gic â'm troed i'r gongl agosaf ataf nes i ddarn o honi syrthio'n garn.

"Wel, ond oe'ch chi, Mr. Dafis, y'ch hunan yn gweyd wrthon ni yr wthnos ddiwetha am barotoi i wrthryfela?" ebe fe.

"Wel do'n reit siwr," meddwn ina, "a'r gwir am dani, Mr. Thomas, mi rydach chi yn llygad eich lle i neud ogof Gymreig."

Dyma i lygid o'n sirioli ar hyn.

"Ydach, mi ddeyda i eto, mi rydach chi yn llygad y'ch lle i ddarparu ogof, fel yr oedd Noah i ddarparu arch i gadw ei dŷ. Dilynwch esiampl Noah. Darparwch chi'r ogof i gadw Cymru—ond peidiwch myned iddi nes delo cyflawnder yr amser. Mi ddechreuodd Noah adeiladu arch