Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwech ugain mlynedd cyn bod ei heisio hi, ond aeth o ddim i mewn iddi chwe' mis cyn i'r diluw ddod; a mi rydach chi 'rwan ryw chwe mis cyn yr amser, ac mi ddeyda i chi pam. Yn 1894 yr oeddach chi a ninau'n disgwyl cael Dadgysylltiad."

"Ond dyw Gladston ddim wedi gweyd y cawn ni e y pryd hyny," ebra fo.

"Nac ydi'n reit siwr—ond tydi o ddim wedi deyd na chawn ni chwaith. Nid eisio cael gyntho fo i addo gneud yn 1894, ond eisio cael gyntho fo i wneud yn 1894, sy arnom ni. Nid ymladd am ei addewid o ydan ni ond ymladd am ei weithred o. Ewch chi rhag eich blaen i neud ogof, a gwnewch hi'n ogof ddigon llydan gall yr aelodau Cymraeg i gyd—a Dafydd Dafis gyda nhw—ddod i mewn iddi.” "Ie," ebra fo, "a beth wedyn?"

"Wel hyn," meddwn ina. "Pan fydd yr ogo'n barod,—a rhowch chi wybod i Gladstone ei bod hi'n cael ei pharotoi―yna, pan ddechreua Senedd Dymor 1894, os na fydd Dadgysylltiad yn ffrynt program y Weinyddiaeth am y Senedd Dymor hwnw, mi rof fi ngair i chi y deuaf fi i'r ogo gyda chi, ac y daw Tom Ellis, a Lloyd George, a'r ddau Herbert, a Tomos Lewis, ac Osborne Morgan, a Frank Edwards, ie, ac Abel Thomas a Lloyd Morgan sy oreu iddyn nhw—a'r holl griw gyda'u gilydd i fewn iddi. Dyna fargen i chi."

Bargen!" ebra yntau gan daro i law yn fy llaw ina. A dyna hanes yr ogof Gymreig, a'r plans a'r spesificeshyns, a phob dim fel y cytunwyd arnynt rhwng yr Arcitect, Dafydd Dafis, a'r Contractor, Dafydd Tomos o Ferthyr. Pu'n a adeiladwyd hi gan y Contractor yn ol y plans a'r spesificeshyns, sy gwestiwn arall. Ond nid D. A. ydi'r Contractor cynta ddaeth i helbul wrth beidio dilyn y planiau!