Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/180

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi fydda i'n hoffi mynd am dro i dŷ Wynford Philipps. Mi fyddwn ein dau yn medru cydymdeimlo'n iawna'n gilydd. Mae gyntho fo, fel mina, wraig sy'n llawer ffitiach i fod yn Aelod Seneddol na fo. Mae o fel mina yn ddyn fasa'n well gyntho fo aros gartra ac enjoyo tipyn arno i hun yn dawel na bod yn merw politics y byd. Ond mae yntau, pwar ffelo, wedi dysgu fel fina i mostwng yn dawal i'r awdurdodau goruchel, ac, fel Aaron, i dewi. Ac o ran hyny mi fedar o fel fina fforddio tewi; mae gynon ni'n dau rai ddeydith ddigon trosom ni. Mae Claudia'n un go lew am hyny; mi siaradith hi a gwd ffifftin tw ddi dysn; ond mi fydd Mrs. Wynford Philipps i fyny a hi. Mi fydd cystal a rasus ceffyla i glywad Claudia a Mrs. Wynford Philipps yn siarad eich dwy'r un pryd. Wel mae Claudia'n ffrindia garw hefo hi, a mina hefo ynta, ac felly mi fydda i a Philipps yn gneud ein hunain yn hapus ddigon pan fyddwn yn cyfnewid fisit fel heno.

Wel, pan gyrhaeddasom y tŷ, mi gawson fod yno barti o gryn hanar dwsin yn ein haros, a chan ein bod dipyn yn ddiweddar, chawson ni ddim amser i ddim ond ysgwyd llaw cyn ein bod yn cael ein trefnu i fynd i giniaw. Fel bydd arfar y bobol fawr yma mi roeddan yn cael ein cyplu bob yn ddau fel harneisio ceffyla; ac wrth ein harneisio ni felly fydd y gŵr byth yn cael mynd hefo'i wraig ei hun, ond gyda gwraig rywun arall, neu o leia ryw ddynes arall ; mi syrthiodd i'm rhan i i gael fy harneisio wrth ddynas o'r enw Mrs. Wingate-dynas right glyfar hefyd, yn gwybod yn eitha be 'di gweithio a'u dwylaw gan ei bod wedi bod yn mil-hand yn y gweithydd cotwm yn Lancashire 'mron ar hyd ei hoes.

Ond pwy ddylia chi oedd y par o'n blaena ni? Pwy hefyd ond Claudia a Bryn Roberts!