Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ie! fel rwy'n sefyll yn y fan yma!

A dyna lle'r oedd Claudia yn pwyso ar i fraich o, ac yn gwenu yn i wymad o, fel pe tae o'r hogyn ifanc delia fu ariod! Ac ynta, druan, yn edrych mor sur a phregethwr mawr na fydd wedi cael ei wahodd i bregethu yn y Sasiwn.

Ond un glyfar ydi Claudia! Toes dim dwywaith gin i nad oedd hi wedi trefnu'r cyfarfyddiad yma a Bryn, ac wedi trefnu cael bod yn bartnar iddo fo ar ginio.

"Dyn d'elpo di Bryn bach," meddwn wrthyf fy hun wrth edrych arnyn nhw. "Chei di ddim enjoio dy giniaw heddyw 'Chydig gei di fwyta—ac mi gei di'r indijestshyn yn arw ar ol yr ychydig hwnw!"

Mi wyddwn fod Claudia am sugno'i waed o; ac eto ddyliach chi byth mo hyny wrth ei gwelad a'i chlywad hi hefo fo ar y ffordd i'r deining—rwm. Mi roedd ei chwerthiniad hi mor ysgafn a pherorus a chlychau arian, a'i llygid hi'n dawnsio yn ei phen hi, ac mi roedd yn debycach lawar i hogan deunaw oed yn scwrsio hefo'i chariad nag oedd hi i ddynes wedi cynllwyno i ddal Aelod Seneddol diniwad i'w rostio fo'n fyw.

Wel, mi ddaru ini gyrhaedd y deining—rwm, ac mi roeddwn i'n eistadd reit gyferbyn a Bryn a Claudia ac yn gallu gweld a chlywad y cwbwl.

Ond un filan ydi Claudia. Mi roedd hi wedi teimlo i'r byw am fod Bryn yn cadw draw oddiwrthi hi er dydd yr affternwn tî hwnw, ac mi roedd ei waith o'n neidio allan o'r garej ryw ddiwrnod pan oeddan ni wedi gwarfod o ar y ffordd, a pan oeddan ni'n rhoid lifft iddo tua'r steshon a hitha ar hanar deyd y drefn wrtho fo, wedi ei chynhyrfu hi'n waeth fyth. Ond ddyliai neb o hyny wrth i gwelad a'i chlywad hi chwaith. Mi ddechreuodd hefo fo fel