Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydd cath ar ol dal llygodan, yn chwara a hi cyn i lladd hi.

Wel, mi ddaru chi gyrhaedd y stesion mewn pryd y dydd o'r blaen wedi'r cwbl, Mr. Robaits," ebra hi.

Hm," ebra Bryn, gan lyncu llwyad o ocstêl sŵp, a rhan o hwnw'n mynd i'r bibell chwith a gneud iddo besychu.

"Mi rodd yn dda gin i ddarllen hanes cwarfod y chwarelwrs yn mhapura Cynarfon," ebra hi wedyn. "Mi ddaru chi gyrhaedd yno o flaen Ellis a George, onto?" "Hm! hm!" ebra Bryn wedyn.

"Ie. Felly rwy'n dallt;" ebra Claudia. "Amball waith fyddwch chi'n mynd o flaen Ellis a George hefyd, ond mi eithoch y tro yma, chwara teg i chi."

"No mor sŵp," ebra Bryn wrth y weitar tu nol iddo, ond yn edrych yn hiraethlon hefyd ar ol y sŵp plêt oedd yn hanar llawn yn mynd oddiwrtho fo.

"Nid cogio ydw i welwch chi, Mr. Robaits," ebra Claudia gan sychu'i cheg a'i teblnapcin ar ol yfed y llwyad ola o'r sŵp. "Mi aethoch o'u blaena nhw o ddigon y tro yma. Nid mewn amser yn unig rwy'n feddwl, ond mewn deyd hefyd."

"Mi ddeydis i 'rhyn oeddwn i'n gredu," ebra Bryn, gan droi i sbio yn llygid Claudia;—ac mi roedd rheiny yn ddigon disglaer, a'i gwyneb yn ddigon del, medra fo sbio arni drw'r nos ran hyny.

"Do, mi'ch coelia chi," ebra hitha. "Mi roedd gynoch chi well spitsh o'r hanar nag oedd gan Ellis na George y tro 'ma. Mi fydda i'n deyd yn amal y'ch bod chi Mr. Robeits yn well dyn o'r hanar nag ydach chi'n fodlon i bobol gredu'ch bod chi."

"Na wir, Mrs. Davies, tydw i ddim cymint a hyny o Gristion chwaith," ebra fo, gan 'maflyd yn y ffishneiff i