Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynu'r blew o'r pysgodyn oedd y waiter wedi roid o'i flaen o.

"O ydach wir," ebra hitha, rhwng dau damad, “ydach wir. Os nad ydi Mr. Graves yn sir Gynarfon acw wedi cael ei argyhoeddi gan y'ch araeth chi i roid terfyn ar streic Ffestiniog, fasa dim tshans i angel o'r nef i argyhoeddi o."

"Falle medre angyles—fel chi,—er hyny," ebra Bryn, a'i fwstas yn coglais ei chlust hi, canys mi roedd abwyd Claudia erbyn yma wedi cael ei lyncu, a'r pysgodyn druan yn y ddalfa!

"Oh Mr. Roberts! Hen flatrer ydach chi wedi'r cwbwl!" ebra hitha gan daflu fflachiad o'i llygad reit i'w galon o. Ond fel y deydis i, tydach chi ddim yn gneud chwara teg a chi'ch hun. Dyna chi er enghraifft yn rhoid achos i ddynion gredu'n waeth am danoch chi nag ydach chi hefo busnes y Brifysgol yma 'rwan. Tro gwirion oedd i chi joinio hefo'r ddau esgob yno i roid strocen o flaen yr olwyn y tro yma. Tydi'r penderfyniad sy gynoch at ddydd Mawrth nesa, er y'ch bod chi'n i fwriadu fo'n onest at helpio bechgyn tlodion Cymru, tydi o mewn gwirionedd yn ddim ond chwara cardia i ddwylo'r ddau esgob, a John Owen o Goleg Llambed."

Mi fflatiodd hyn beth ar Bryn, ac mi tebodd yn bur swrth: "Tydw i ddim yn credu, Mrs. Davies, fod merchaid wedi cael eu bwriadu gan y Brenin Mawr i ymyryd mewn petha fel yma."

"Rhag cwilydd i chi, Mr. Roberts!" ebra hitha, gan ddropio'i ffishfforc ar y plat. "Did iw hiar ddat Mrs. Philipps?"

"No. Hwot was it?" ebra'r westyes.

"Ranc heresi," ebra Claudia.