Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Byt dw sei hwot it was," ebra un arall o'r ledis.

"Wel," ebra Claudia, wedi llwyddo i dynu llygid pawb atyn nhw'ch dau. "Mr. Bryn Roberts ses ddat Profidens nefer intended wman tw tec part in pyblic affers."

"Oh, Mr. Roberts, how cwd iw!" ebra Mrs. Wingate yn f'ymyl.

"Eim shoct!" ebra Mrs. Philipps. "And iw ar tw tec ddi tsher at mei miting at Carnarvon necst Thyrsde."

"Ei nefer cwd haf thot iw cepabl of sytsh a sentiment, Mr. Roberts!" ebra Mrs. Brynmor Jones, gan chwyddo'r corws.

"Men wer disifers efer," ocheneidiai rhyw hogan ifanc y pen arall i'r bwrdd.

Cyn i Bryn druan gael amser i ddod ato'i hun, dyma Claudia'n dechra wedyn, ac fel y deydis i, llygid pawb erbyn hyn arnyn nhw'ch dau.

"Ac mi rydach wedi cyhoeddi maniffesto ond tydach chi Mr. Robaits? Mi fasa'n dda gin i pe bawn i'n ddigon mawr i neud maniffesto. Dynion mawr i gyd fydd yn cyhoeddi maniffestos onte? Dyna maniffesto mawr Mr. Gladston ers talwm ysgydwodd y byd politicaidd ben bwy gilydd. A'rwan ar i ol o dyma'ch maniffesto chitha, Mr. Robaits!"

[ocr errors] "Esgusodwch fi, Mrs. Davies," ebra Bryn. "Nid maniffesto oedd o. "Toedd o ddim ond llythyr plaen a syml oddiwrth ddyn plaen a syml mewn atebiad i lythyr plaen a syml arall."

"Eich gwyleidd-dra chi sy'n i alw fo'n llythyr yn lle maniffesto, rwyn ofni," ebra Claudia. "Ond rhowch i mi welad. Ateb llythyr ysgrifenydd y Clwb Rhyddfrydol hwnw yn Mhorthmadog oeddach chi, ynte?"

"Ie," ebe Bryn yn gwta.