Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A ddaru chi ddim cymyd dim ond mis o amser i gyd i ysgrifenu llythyr plaen a syml felly! Mi roedd dyddiad llythyr ysgrifenydd y Clwb Jiwlei ddi elefenth, a'ch atebiad chitha Ogyst ddi elefenth! Chwareu teg i chi, Mr. Robaits.. Mi rydach yn mynd ar ol Lloyd George yn ffast. Neith hwnw byth atab llythyr,-ond mi fedrwch chi neud ond cael mis o amser os bydd brys yn y peth a'r matar yn bwysig! Ond deydwch imi pam na fasach chi'n gyru'r llythyr i'r Teims deydwch? Mi fydd dynion mawr i gyd yn gwneud hyny'r dyddia yma. Dyna Syr Edward Reed, 'rwan, mi ddaru o yru'i lythyr i'r Teims pan oedd o am yru Librals Caerdydd yn ben ben—a dyna—'

"Esgusodwch fi eto, Mrs. Davies," ebra Bryn yn reit. short. "Toedd dim eisio imi yru'r llythyr i'r Teims, mi gyhoeddodd y Teims o heb imi ei yru fo iddyn nhw."

Oh, mi ddarun ai do? Wel, dene brawf arall y'ch bod chi'n ddyn mwy pwysig na ddyliech chi'ch hun 'rwan. Nid anrhydedd bach ydi cael deyd yr hyn sy gynoch chi yn y Teims. Yn y Teims y cyhoeddwyd y clwydda ofnadw rheiny am Gymru gan y Speshal Comishonar hwnw; ac yn y Teims y cyhoeddodd Pigot hwnw i glwydda ynta. Mae'n dda gin y nghalon i na ddaru i chi yru'ch llythyr chitha i'r Teims. Ond mi ddalia i fod y Teims yn y'ch canmol chi i'r cymyla rwan."

"Wel nac ydi'n reit siwr, Mrs. Davies," ebra Bryn, yn llawen iawn i fod o'n medru troi geiria Claudia 'nol mèwn dim.

"Nac ydi?" ebra hithau, gan agor i llygid mewn syndod gneud, canys mi wydda'r ffalsen yn iawn be oedd y Teims yn ei ddeyd. Mi roedd wedi bod yn ei astudio fo'n fanwl y prydnawn hwnw. "Wel, be mae'r Teims yn ddeyd, deydwch."