Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/189

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Sut? Wel wrth fynd o flaen y wlad a chri poblogaidd fydd yn cadw'n rhengoedd ni'n gyfyn."

"Feri gwd," medda Claudia. "Os felly, mae eich geiria'ch hun yn eich condemnio. Yn y'ch llythyr mi rydach chi'n deyd mai Dadgysylltiad yw'r unig gwestiwn mawr all y blaid gymeryd mewn llaw heb golli cefnogwyr yn y Tŷ neu yn y wlad. Ac eto dyma'r cwestiwn nad ydych yn foddlon ei wasgu i'r ffrynt!"

"Ond be ddeydech chi am y mesurau pwysig erill ydw i wedi nodi yn y llythyr, Mrs. Davies?" medde Bryn, gan dybied ei fod wedi ei dal hi o'r diwedd.

"Mi ddeyda i mai mesurau da ydan nhw, bob 'run o honyn nhw, a mesurau yr hoffwn i eu gweld nhw'n pasio. Ond tydw i ddim am fynd tu hwnt i'r Sgrythyr."

"Tu hwnt i'r Sgrythyr?" gofynai Bryn.

Fel blaenor Methodus, mae Bryn fel mina yn gwybod ei Feibil fel gwybod ei Abiec, ond fedra fo yn ei fyw weld ar y fynud be oedd gin Claudia mewn golwg 'rwan.

"Ie," ebra Claudia'n dawel, "Câr dy gymydog fel ti dy hun' yw gorchymyn y Sgrythyr, ond mi rydach chi am i Gymru garu pob cymydog yn well na hi ei hun, a rhoid ffordd i bawb fydd ar eu gofyn. Thal hyn ddim wir, Mr. Robaits. Mae Cymru wedi aros eisys yn rhy hir o lawar, a rhaid ini gael rhywbath bellach. Y gwir am dani, Mr. Robaits, a waeth ini ei gydnabod 'rwan fwy na pheidio, tydach chi na mina ddim mor ifinc ag y buon ni. Ond os bydd i Gymru gario'ch polisi chi allan, mi fydd eich plant chi—er nad oes gynoch chi'r un 'rwan—yn hynach nag ydach chi 'rwan cyn y gwelir Dadgysylltiad."

"Mrs. Davies," ebra Bryn. "Mi rydach yn gwneud cam â mi. Mi rw i am wasgu Dadgysylltiad yn mlaen pan ddaw amsar cyfaddas."