Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/190

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Amsar cyfaddas!" ebra Claudia, a'i llygid yn fflachio. "Nid chwi ydi'r cynta sy wedi myned i golledigaeth wrth weitied am amsar cyfaddas. Dyna oedd esgus Ffelix ars talwm rhag gwrando ar yr apostol, disgwyl amsar cyfaddas roedd o,—a daeth ddim amsar cyfaddas iddo byth, druan a fo. Mi ellwch chwi wawdio Tom Ellis, a Herbert Lewis, a Lloyd George, a Sam Evans, a D. A. Thomas, a'r Iyng Wêls Parti fel 'gwŷr ieuainc byrbwyll a dibrofiad sydd wedi rhuthro yn ddiweddar i wleidyddiaeth,' a son am 'anoethineb y rhai a elwir yn adran flaenllaw,' a chymyd arnoch chi nad oes neb ond chi yn deall y cwestiwn yn iawn, ond y gwir am dani mae'r bobol yma wedi gwneud rhywbeth yn y Parlament heb weitied am amsar cyfaddas.' Na, Mr. Robaits, nid ffyliaid ydi'r deg ar hugain eraill Aelodau o Gymru,—ac nid chi ydi'r unig ddyn call yn eu plith nhw"—a ffwr a hi tua'r drws gyda'r ledis erill.

"Mr. Dafis," ebra Bryn, pan welodd y merchaid yn mynd allan, a Claudia hefo nhw, gan adael y dynion i gyd ar ol, fel bydd ffasiwn y byddigions yma. "Cymwch gynghor gin i. Peidiwch byth mynd yn Aelod Seneddol. Rhaid diodde tafod am ddwy awr gan ddynas ffraeth fel 'na, a spwylio cinio da, a diodda'r cwbwl fel Cristion."

"Ie, ie," meddwn ina. "Ond rhaid imi ddiodda heb fod yn y Parlament."

"A mina," ebra Wynford Philipps, "a bod yn y Parlament."

"Wel," ebra Bryn, "mae gin i biti trosoch chi'ch dau. Mae'n gysur imi feddwl nad ydw i ddim yn briod."

"Ydi," ebra Claudia, yn rhoid ei phen fiawn drwy'r drws lle roedd hi wedi clywad y cwbwl," ond mae yn fwy o gysur i'ch gwraig, Mr. Robaits!"

A ffwr a hi, gan adal Bryn a nina'n sbio'n wirion ar ei hol.