Ddylis i rioed basa Claudia'n derbyn hèr felly, ynte? Ond dyma hi'n chwerthin, gan ddeyd:—
Oh, David! David! Mi ryda chi'n un digri! Ond er cymint ydw i am eich gwelad chi yn y Parlament, mi dderbynia i'r hèr, a dyma selio'r fargen," gan roid clamp o gusan imi.
"Wel, gyn fod y fargan wedi i gneud, deydwch wrtha i sut yda chi am fynd o'i gwmpas o?"
Gwenodd hitha. Tynodd lythyr allan o'i phocad, a dau bost-card allan o hwnw.
"Sbiwch yma," ebra hi. "Mi rydw i wedi ysgrifenu'r infiteshyn iddo yn ol y dull arferol, ac yn gosod y ddau bost-card yma ynddo fo wedi eu hadresio'n barod imi gael iddo atab."
"Ond pa eisio dau bost-card?" gofynis inau'n syn. Mi fedra ddeyd 'Ies' neu 'No' ar un cerdyn heb iwsio dau!"
"Ie, ond wneith o sgwenu o gwbl? Dyna'r cwestiwn!" medda hitha. Felly mi rydw i wedi sgwenu drosto fo, ar un card i ddeyd y daw o, ac ar y llall i ddeyd na ddaw o ddim. Mi geith yntau ddewis prun i bostio."
Ac estynodd y cardia imi. Ar y naill mi roedd wedi sgwenu:-
- "Mr. Lloyd George regrets that he is unable to accept Mrs. Davies's invitation."
Ac ar y llall:
- "Mr. Lloyd George will be pleased to accept Mrs. Davies's invitation."
A thra 'roeddwn i'n sbio'n wirion, dyma hi'n deyd:
"Fedar o yn i fyw, tae'r cebyst ynddo fo, wneud llai na dropio un o'r ddau bost-card yn y letar-bocs pan geith o'n llythyr i."