Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwir y ddeydodd hi. Bora tranoeth dyma un o'r ddau bost-card yn i ol, yn deyd y doi o. Felly mi roedd yn rhaid imi wneud unrhyw gais leicie hi ofyn imi. Ond mi rydw i'n ama tawn i'n gwybod be fasa'r cais hwnw a faswn i'n gaddo gwneud, chwaith. Ac mi rydw i'n ama hefyd pytai Claudia'n gwybod be fasa canlyniad gofyn y cais gyni a fasa hi wedi ei ofyn o,—fel cewch chi welad yn y man. Ond 'rwan imi gael deyd sicwel y stori am y ddau bost—card wrtha chi.

Mi welis i amball i hogyn o stiwdant yn dechreu pregethu, yn ceisio actio yn y pwlpud fel rhyw bregethwr Sassiwn enwog. Os byddai gan y pregethwr lais cryf, garw, mi fasa'r stiwdant yntau yn ceisio pregethu bass, hyd yn nod petai'r Bôd Mawr wedi bwriadu i'w lais o fod mor fain a gwichlyd a tin whisl. Os pesychu fyddai un o nodweddion y pregethwr mawr, mi besychai'r pregethwr bach run fath a fo'n union—neu mor debyg iddo ag y medra fo; neu os gwneud stumia fyddai un o wendidau gŵr y Sassi wn, mi dybiai'r stiwdant mai mewn gwneud stumia yr oedd cudd-der ei nerth yntau.

Ond welis i ddim daioni yn dod erioed o geisio benthyca talent fel yna. Ffeiliar hollol fydd y bobl rheiny i gyd fel rheol. Os ydi'r Hollalluog wedi'ch cynysgaethu chi â thalent, hogia, defnyddiwch hi bei ol mins, gan nad beth ydi hi, os medrwch chi i defnyddio hi er daioni. Ond peidiwch a meddwl os oedd llais cry gyda Dr. Hughes, Cynarfon, os oes dull gwledig gan Dr. Cynddalan, os roedd golwg tipyn o swel ar Doctor Dickens Lewis, ac os bydd spectol ar drwyn Dr. Tomos Charles Edwards, mai'r pethau hyny sy wedi'u gneud nhw'n ddoctoriaid, ac y dewch chithe'n ddoctor ryw dro os bydd i chwi eu hefelychu yn y