Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau hyn. Na, na, ddaw hi ddim felly. Mi fedran nhw wneud gydag arddeliad yr hyn fasa'n chwerthinllyd y'ch gwelad chi'n ceisio'i wneud.

Dyna'r bregeth, a rwan at y cymhwysiad.

Mi roeddwn i'n brysio adra un prydnawn, pan bwy gwrddwn i ar gongol Hyde Park, ond gwraig Shon Robaits. Brocar ydi Shon Robaits, a brocar reit glyfar hefyd ddyliwn i—o leia mae o a'i wraig yn tori dash go lew. Petai hanar i synwyr o yn mhen i wraig o mi fasa'n reit dda iddo fo—a hitha.

Am Mrs. Robaits, mi rydw i wedi digio o nghalon wrthi am ddau neu dri o betha. Yn un peth mi fynodd gan Shon Robaits newid ei enw pan ddaeth o'n mlaen rhyw 'chydig yn y byd yma, ac mae hi'n spelian yr enw 'rwan yn Robartes," gan dybied ddyliwn i fod "Robartes" yn fwy aristocratedd na'r hen ddull cydnabyddedig, awdurdodedig, "Robaits." Ond Mrs. Robaits fydda i'n i galw hi er hyny ——ac mae hyny'n dân ar i chroen hi. Peth arall wnaeth hi oedd mynd i'r capal Sasneg. Pe tai hi'n Sasnes heb ddallt llawar o Gymrag, faswn i'n deyd yr un gair am hyny; ond a deyd y gwir, er lleiad o Sasneg a wn i, mi wn i gymint arall ag a ŵyr Mrs. Robaits beth bynag.

Wel, blaw hyny, mae hi bob amser yn ceisio gneud 'run fath a Claudia'n union yn mhob peth. Ond mae'n gofyn cael Claudia i fedru gneud fel Claudia,—a does dim ond un Claudia yn y byd. Am Mrs. Robaits, tydi hi ddim patsh ar Claudia. Mae hi'n ceisio gwisgo 'run fath a hi, a cherdded 'run fath a hi, phesychu a thisian 'run fath a hi—ac mae hi'n llwyddo i fod mor debyg i Claudia a phe tai hwch dew yn ceisio efelychu un o geffyla rasis Arglwydd Penrhyn deydwch.