imi. Fedra i ddim aros nemawr gyda chwi heno f' hun, ond yr wyf wedi ceisio gan Lloyd George i edrych ar eich hol. Dyma fo," ac introdiwsiodd fi i ryw hogyn ieuanc y gallwn dybio mai yn yr ysgol neu yn Jericho y dylai fod tan dyfai ei farf.
Rhedodd Ellis ymaith ar ffrwst gan fy ngadael i gyda Lloyd George a Vinsent.
Mae Ellis yn colli arno ei hun yn lan ulw heno," ebe Lloyd George.
"Be haru o!" gofynai Vinsent.
Oh ma'r Iwnionists yn cael i chwipio i fyny yn ofnatsan ar ol y llythyrau rheiny yn y Times amser y Sulgwyn, a tydi'n pobol ni ddim wedi dod yn i hola eto, ac ma majority Glaston yn myned i lawr yma heno!" "Whiw!" ebe Vinsent, "Dim rhyfadd yn y byd fod Tom o'i go."
"Be gymwch chi, Mr. Dafis," ebe Lloyd George; a chyn i mi gael amser i ddeyd mai glasiad o gwrw, aeth yn i flaen, "Well i chi ddod hefo mi i gal cypaned o dê. 'Toes dim at dê yn y marn i."
"Ond llefrith," ebra fina, a dyma'r ddau yn chwerthin fel ffyliad.
"Dyna hi, Mr. Dafis. Nything leic leddyr," ebe Lloyd George, gan maflyd yn y mraich ia mynd a mi tua'r ti-rwm.
Erbyn mynd i'r ti-rwm, mi rodd y lle yn fwy na haner llawn, a phob un wrthi am i fywyd. Cawsom fwrdd bychan o'r neilldu yno, lle y medrem weled pawb braidd. "Ga i ddangos rhai o'r bobol ddiarth sy yma i chi, Mr. Dafis?" gofynai Lloyd George. "Lle garw ydi hwn i gal golwg ar y dynion rheiny sy'n meddwl cael dod yn Aelodau Seneddol cyn y mil-flwyddiant."