DAFYDD DAFIS. "Dyna un ar hugain o Gymry, ac un ar hugain o fajoriti, ac mi rydw i'n deyd mai Iyng Wêls gadwodd einioes Gweinyddiaeth Gladstone heddyw."
"Ie, ie, ond wêt a bit," ebe Ellis, oedd wedi dod ato ni 'rwan, "ble'r oedd y deg arall? Pe bai nhw yma, buase'n majority ni'n 31. Weles i riotswn beth ariot, a'r naddo i'n siwr Mae'n gwilydd ini fel parti."
"Howld hard, Ellis!" ebe George, "Ble 'roeddan nhw, dwad?"
"'Dwn i ddim. Mi rodd Alfred Tomos wedi perio fel dyn hefo Long, ac mi 'rodd Syr Edward Reed ffwr yn Norwe."
"Yn ffoi o swn y Jiwnior Librals yn Nghaerdydd," ebe Lloyd George dan chwerthin.
Ond mi 'rodd Ellis wedi mynd eto, ac mi rown ina wedi colli blas wrth weld fod pob lle allwn i gynig am dano yn fwy na llawn. Mi dybiais mai gwell fase i mi droi adre, ac felly ffarwelies a George a Vinsent a ffwr a mi.