ebe Mabon; "a mi liciwn i ti gal i weld e' hefyd. Mae cwrdd gyda ni'r prydnawn 'ma."
"Ga i ddod fewn?" gofynais.
"Tai ti'n cynyg can' punt, bachan, chelet ti ddim dod, na neb arall ond yr aelode," oedd yr ateb. "Ond aros di fan hyn dicyn bach, mi a i i ddryched am yr allwedd," a ffwr a fo.
Wedi iddo fynd, mi ddechreuis i i theimlo hi'n unig, a mi eis i dreio'r drws fy hunan, a chefais er fy syndod nad oedd y drws wedi ei gloi o gwbl. Tebyg fod Mabon wedi troi'r handl o chwith. Aethum i fewn, a chefais fy hun mewn ystafell fawr gyda bwrdd hir yn y canol, a nifer o gadeiriau esmwyth yn ddau gylch o'i gwmpas. Gan nad oedd neb yno, a'm bod inau'n disgwyl gweld Mabon yn dod nol bob mynud, aethum i fyny at y bwrdd, ac eisteddais. Cyn hir clywais rywun yn dynesu at y drws, a chan gredu mai Mabon oedd, penderfynais chwareu tric a fo, felly ymlithrais o'r gadair i'r llawr, ac o dan y bwrdd. Ond er fy nychryn cefais wrth y llais mai nid Mabon oedd yno, ond dau neu dri o'r aelodau ereill yn nghanol ymgom ar faterion cyfrinachol. Yn fy nychryn collais fy hunanfeddiant, a llechais yno yn y gobaith y buasent yn mynd allan, a roid cyfle i minau ddianc.
Ond aeth fy sefyllfa o ddrwg i waeth. Llenwodd yr ystafell yn gyflym, ac eisteddodd yr aelodau yn gylch dwbl o gwmpas y bwrdd a minau-gan fy nghau yn garcharor! Wnai hi byth mo'r tro i mi ddadguddio fy hun bellach. Felly llechais yno mor dawel ag y medrwn, gan ofni hefyd y clywai rywun guriadau fy nghalon, yr hon darawai fy mynwes fel morthwyl gof ar yr eingion.
"Tydw i ddim am roid i lawr yma bob gair o'r ymdrafodaeth gymodd le yno. Yn un peth, 'tydw i ddim wedi