Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dysgu ysgrifenu llaw fer, a pheth arall mi roedd hi yn dywyll a'r lle o dan y bwrdd dipyn yn anghyfleus i gym- eryd nodiadau, ac heblaw hyny mi fuodd yno gymint of siarad ofer ag a fydd mewn comiti eisteddfod neu gynad- ledd gweinidogion. Ond mi glywais i ddigon i brofi imi fod yno dair plaid yn mhlith yr aelodau. A dyma nhw :-

Plaid Nymbar Won. Iyng Wels, neu Cymru Fydd, o'r rhai y mae Tom Ellis, Lloyd George, Herbert Lewis, Herbert Roberts, Alfred Thomas, D. A. Thomas, Sam. Evans, Frank Edwards, Lloyd Morgan, y Mejor, Mabon, David Randel, a'u bath, yn gynrychiolwyr teilwng. Mynai y rhai hyn gyhoeddi rhyfel, a chodi baner Cymru i awelon y Senedd, a dweyd wrth yr Hen Wr fod yn rhaid i Gymru gael yr hyn a ddisgwyliai, neu droi cefn ar y Weinydd- iaeth. Cicio row ofnadwy y byddai y rhai hyn os na chai Cymru chwareu teg. "Cymru'n nghynta'" oedd arwyddair y rhai hyn.

Plaid Nymbar Tw. Yr hen ffogis y gelwir y rhai hyn, a chynrychiolir y blaid gan ddynion fel Samuel Smith, William Rathbone, Arthur J. Williams, Fuller Maitland, Syr Hussey Vivian (pan oedd o), a thacla felly. Mi roedd y rhai hyn am adael i betha fod fel yr oeddan nhw, a chymyd 'u cwrs. Toeddan nhw ddim am wneud rhyw lawar iawn o wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, na Chymro na Sais. "Fel yr oedd yn y dechreuad," oedd arwyddair y rhai hyn.

Plaid Nymbar Thri, yn cynwys Mistar Bryn Robarts, yn cael ei gynrychioli ganddo ef ei hun. Toedd y blaid yma ddim am boeni Mr. Gladstone, nac am wneud dim byd fasa'n rhoid y Weinyddiaeth mewn twll. "Mr. Gladstone yn Alpha, a'r blaid Ryddfrydol yn Omega" oedd arwyddair y blaid hon.