Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cefais ar ddeall yn fuan ei bod yn wir am deyrnas politics, fel am deyrnas well, mai "treiswyr sydd yn ei chipio hi." Chymai Iyng Wels ddim pall. Mi rodd yn rhaid iddyn nhw gael 'u ffordd,-a chan eu bod nhw'n rhifo dau am bob un o'r ddwy blaid arall hefo'u gilydd, mi gawson 'u ffordd hefyd.

Tynwyd cynllun o lythyr allan, ac wedi ei gywiro a'i welliantu fo, darllenai, hyd 'rwy'n gofio, rhywbeth fel hyn. Fel y deydais i, fedrwn i ddim cymyd notes, ac yn Sasnag yr oedd y llythyr am na fedra Mr. Gladstone, er cystal scolar ydi o, ddim darllen Cymrag. Ond dyma sylwedd y llythyr yn Gymrag:[1]

AT Y GWIR ANRH. W. E. GLADSTONE.

ANRHYDEDDEDIG SYR,-

Yr ydym ni, sydd a'n henwau isod, a'r rhai ydym yn Aelodau Seneddol dros Gymru (yn cynwys sir Fynwy), yn dymuno gosod yn glir ac yn barchus ger eich bron, ein syniadau ar y cwestiwn pwysig o Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru.

Dymunwn yn barchus eich hadgoffa:

1. Fod Cymru ers dros chwarter canrif bellach, wedi mynegi ei barn a'i theimlad yn ddiamwys o blaid Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys.

2. Fod Cymru, yn y ddau Etholiad Cyffredinol diweddaf, wedi dychwelyd mwy o Ryddfrydwyr mewn cyfartaledd nag un rhan arall o'r Deyrnas.

3. Tra y mae y Dywysogaeth wedi bod, ac yn parhau i fod,

  1. Er na wnaed cynwys y llythyrau hyn yn gyhoeddus mewn un ffordd arall, cydnabyddir gan yr Aelodau Cymreig fod argraphiad Dafydd Dafis o honynt yn ymarferol gywir-Yr hyn sy'n ddigon i brofi dilysrwydd yr hanes fel y'i rhoddir ganddo; tra mae ei barod- rwydd yntau i ddweyd sut y cafodd o hyd i'r hanes nid yn unig yn adlewyrchu clod ar ei onestrwydd, ond yn rhyddhau'r Aelodau Cym- reig yn gyfangwbl o'r cyhuddiad disail a ddygir yn eu herbyn o fradychu cyfrinach.-GOL.