yn ffyddlon i'r Blaid Ryddfrydol, ac i chwithau fel Arweinydd medrus y Blaid hono, mae yn teimlo fod yr amser wedi dod pan y byddai gohirio cyflawni ei gobeith- ion yn gosod mwy o dreth ar ei hamynedd ac o brawf ar ei ffyddlondeb i'r Blaid nag y byddai yn iawn i chwi ei ofyn nac i ni ei gymhell.
4. Fod Cymanfa Gyffredinol y Blaid Ryddfrydol yn New- castle wedi gosod Cwestiwn Mawr Cymru yn ail ar Raglen Swyddogol y Blaid, a bod y penderfyniad hwnw wedi cael ei selio a'i ategu gan Gymanfa Gyffredinol y Blaid yn Lerpwl.
5. Eich bod chwithau, yn eich araeth yn Nghaernarfon, ac ar lawr y Tŷ, wedi cydnabod rhesymoldeb ein cais, ac wedi addaw yn bendant ei ganiatau.
6. Fod pleidlais Tŷ y Cyffredin wedi ei roddi yn glir ac yn bendant yn ffafr yr hyn yr ydym yn ei geisio genych. Wedi eich adgofio o'r pethau uchod, dymunwn ddweyd ya mhellach ein bod yn teimlo fod ein dyledswydd tuag at ein hetholwyr a thuag atoch chwithau, yn galw arnom i wasgu am sicrwydd diamheuol y bydd i chwi arfer eich dylanwad a'ch hawdurdod i sicrhau i ni yr hyn a geisiwn. Mae yr etholaethau yn Nghymru yn anesmwytho wrth weled sefyllfa pethau yn y Tý, a'r cwestiwn Gwyddelig yn bygwth llenwi holl sylw'r Senedd am y gweddill o'r tymor. Ofnwn, os na chaniateir ini brofion di- ymwad o'ch bwriad i wasgu cwestiwn Dadgysylltiad i'r ffrynt, mai ofer fydd ini apelio y tro nesaf at ein hetholwyr i'n dychwelyd eto i'r Senedd fel Rhyddfrydwyr yn unig.
Yn ngwyneb y pethau hyn dymunwn yn y modd mwyaf parchus, ond diamwys, ddweyd mai yr hyn y mae Cymru yn ei ddisgwyl a ninau yn ei geisio yw:
1. Gwthio'r Suspensory Bil drwy Dŷ y Cyffredin eleni.
2. Gosod Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn brif bwnc y Senedd-dymor nesaf.
Os ceir hyn bydd llais Cymru yn gryfach nag erioed dros y Blaid Ryddfrydol. Os na cheir hyn, os siomir ein gobeithion, nis gallwn ateb am y canlyniadau.
Ydym, Anrhydeddedig Syr, yr eiddoch yn gywir,