Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heb i mi fynd i ymhelaethu, cafwyd, ar ol cryn berswadio, gan bawb o'r Blaid Gymreig ond dau i arwyddo'r llythyr at Mr. Gladstone. Y ddau eithriad oeddynt yr aelod dros Arfon-Mr. Rathbone; a'r aelod dros Eifion-Mr. Bryn Roberts. Ni pherthyn i mi chwilio am esgusodion dros y naill na'r llall-ond tarawai fi fel peth tra hynod fod cynrychiolwyr Seneddol un o'r siroedd mwyaf aiddgar dros Ddadgysylltiad, yn gwahaniaethu oddiwrth bawb o'r aelodau Cymreig eraill ar y cwestiwn pwysig hwn.

Cafwyd yn nghyflawnder yr amser yr atebiad oddiwrth Mr. Gladstone. Nid wyf yn mynd i ddatguddio sut y deuthym i feddiant o'r atebiad hwnw. Digon yw dweyd ei fod wedi cael ei ysgrifenu ar Bost Card, a bod ei gynwys, o'i gyfieithu, rywbeth yn debyg i hyn:

AT YR AELODAU DROS GYMRU.

FONEDDIGION,

Darllenais gyda llawer iawn o ddyddordeb eich syniadau ar y sefyllfa boliticaidd, a'r rhan a gymerwch chwi, fel cynrychiolwyr Cymru, yn y gwaith pwysig sydd genym i'w gyflawni. Yr ydwyf, fel y gwyddoch, yn edmygydd mawr o Gymru, ac yn falch o'r ymddiriedaeth mae y genedl oleuedig hono wedi gweled bod yn dda i'w gosod ynwyf fi. Saif Cymru, fel yr iawn awgrymwch, ar y blaen yn mhlith Cenhedloedd Prydain yn ei bymlyniad wrth egwyddorion Rhyddfrydiaeth a Diwygiad, a theimlaf hi yn anrhydedd o'r mwyaf fod y fraint wedi cael ei rhoddi imi o fod yn offeryn i ddwyn i weithred ac i ffrwyth rai o syniadau diwygiadol yr oes. Nis gallaf yn fy henoed, obeithio y caf y fraint o arwain Byddin Diwygiad yn hir eto. Mae Rhwystraeth yn codi ei ben ar lwybr y Diwygiad mawr i'r hwn yr ydwyf wedi ymgyflwyno, a rhaid imi, ac i bawb a'm cynorth- wyant yn mrwydr fawr Iawnder, roi ein bryd yn mlaenaf oll ar ladd yr anghenfil hwn a saif yn ffordd Diwygiadau Cymdeithasol Gwerin Prydain, ac a'i gwna yn amhosibl-hyd nes ei lleddir—