Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'ch gobeithion chwithau ddwyn y ffrwyth hwnw y mae eich ffyddlondeb i egwyddorion Diwygiad yn eich hanog i'w ddisgwyl.

Wyf, Foneddigion,

Yr eiddoch yn gywir,

WILLIAM EWART GLADSTONE.

Fel y gwelir, nid oes neb yn gallu gosod mwy o eiriau, mwy o amwysedd, a llai o sylwedd ar Post Card, na Mr. Gladstone. Mae yn hen feistr ar y gelfyddyd o ddweyd dim wrth ddweyd llawer.

Mi rydw i'n cofio'n dda am dana i'n pysgota yn yr afon yn Llanidris pan oeddwn i'n hogyn bach gartra gyda nhad a mam. Pysgota a'm dwylaw 'roeddwn i, ac mi fedrwn ddal pob pysgodyn ond un-y lysywen.

Mae llythyrau Mr. Gladstone yn fath o lysywenod llenyddol; pan dybioch eich bod wedi cael gafael sicr mewn addewid pendant, ymlithra rhwng eich bysedd, a phan godwch eich llaw gwelwch ei bod wedi cau ar ddim! Cymaint oedd siom Lloyd George wrth dderbyn yr atebiad uchod fel y syrthiodd i lewyg, a gorchymynodd y meddyg iddo fynd i Devonport am wythnos, yn y gobaith y byddai newid awyr, gorphwys oddiwrth waith, a chael y pleser o ysgwyd dwylaw â hen etholwyr Syr John Piwlston, ac edrych ar "safe-seat" ei gyn-gydymgeisydd, yr adgyfnerthiad i'w gorff ac yn adloniant i'w ysbryd cystuddiedig.

Wedi i Lloyd George fynd, ymddangosodd Mr. Stiwart Rendel drachefn ar y maes fel Deonglwr Meddwl Mr. Gladstone. Dangosodd fod y Post Card, er yn ymddangos yn niwliog a diamwys, mewn gwirionedd yn cyfleu gwirioneddau gwerthfawr, ac addewidion graslawn. Dyma Ddehongliad Mr. Rendel o feddwl y Prif Weinidog fel y mae yn gynwysedig yn y llythyr uchod: