Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1. Fod Mr. Gladstone yn ail gydnabod hawl Cymru i Ddadgysylltiad buan.

2. Nad oes dim ond Rhwystraeth y Toriaid a'r Undebwyr yn sefyll ar y ffordd.

3. Ei fod yn benderfynol o fabwysiadu mesurau effeithiol i symud y Rhwystraeth a'i alluogi yntau i wneud yr hyn a geisiai yr Aelodau Cymreig.

Rhaid i mi gydnabod, ar ol clywed dehongliad Mr. Stiwart Rendel, ac ail edrych ar lythyr Mr. Gladstone, y gellir ei ddarllen fel y gwna tad merch-yn-nghyfraith Penarlag. Ond y drwg yw mai darlleniad Mr. Rendel ydyw hwn, ac nas gellir dal Mr. Gladstone yn gyfrifol os yw yr aelod dros Sir Drefaldwyn wedi cam ddarllen y Post Card.

Ond 'toedd dim o f' ymweliadau â'r Tŷ yn cael eu cymeryd i fyny'n gyfangwbl mewn chwilota i hanes ymdrafodaeth yr Aelodau Cymreig a Mr. Gladstone chwaith. Cawsom ambell waith olygfa fwy difyr na ddylia chi 'rwan. Mi ddeyda chi 'rwan am un neu ddau o'r cyfryw.

Yr oeddwn wedi cael fy introdiwsio i Syr Hussey Vivian cyn iddo gael ei wneud yn Arglwydd Swansea chwi wyddoch. Dyn hardd, golygus, yn deilwng o ran ymddangosiad corfforol i eistedd yn nghwmni arglwyddi mwyaf urddasol ein gwlad, ydoedd Syr Hussey,-a gwyddai yntau hyny. Disgwyliem weled ei olynydd yn deilwng ohono, ac aethum i'r Tŷ noson cyflwyniad Mr. William Williams fel A.S. gyda'r amcan dwbl o weled dewrddyn Abertawe, a dysgu'r ffordd i gymeryd fy llw fel aelod Seneddol pan ddaw gobeithion Claudia i ben.

Mae Tŷ y Cyffredin wedi rhifo pob amrywiaeth o ddynolryw fethiantus-cloffion, deillion, gwywedigion, o bob oedran, o bob gradd, o dro i dro yn mhlith ei aelodau, ond ni bu dros Gymru, am wn i, neb o flaen