Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byd profedigaethus ydi'r Senedd. Denir dynion gonest oddiar ganol llwybrau barn. Mi ddeydais fod Bryn Roberts wedi gwrthod seinio'r petisiwn at Mr. Gladstone dros Ddadgysylltiad. Wel, nid dyna'r unig dro iddo syrthio oddiwrth ras. Pan ddaeth Dr. Clarke â'i gynygiad yn mlaen dros Hom Riwl i Scotland, mi fotiodd Bryn Roberts yn ei erbyn o'n streit. Dyna lle'r oedd o, gyda Pryce Jones, a Kenyon, a Morgan, Sir Fynwy, os gwelwch yn dda,-yr unig dri Thori dros yr oll o Gymru, yn mynd fel pedwar brawd anwyl gyda'u gilydd un ffordd, a phawb ereill o'r aelodau Cymraeg y ffordd arall. 'Rwy'n ofni y y deuir a'i achos ger bron y Cyfarfod Misol yn fuan am gadw cwmni drwg fel 'ma,—a dyna lle bydd helynt.

Pan glywodd Claudia fod Bowen Rowlands yn rhoid ei sedd i fyny dros Sir Aberteifi mi roedd am imi gynyg fy hun. Ond wnawn ni ddim. Mi wyddwn well. "Toedd dim o Bowen Rowlands yn mynd i ymwadu â swyn y Senedd er mwyn rhyw swydd fach gwerth dau cant y flwyddyn. Ac mi roeddwn i'n iawn. "Toedd o ddim. Yr oedd yn rhaid iddo roid i le i fyny er mwyn cael i ail ethol, a dyna i gyd, ac mi roedd y Toris mewn penbleth be wnaen nhw. Basa'n dda gynyn nhw roid gofid i Bowen Rowlands, ond costiai hyny arian, ac roedd William Jones, Birmingham, wedi cael digon ar dreulio'i bres ar yr hyn nid yw fara, a'i nerth ar yr hyn nid yw yn digoni. Mynai rhai i Tobit ddod allan, ac mi hoffai Tobit roid M.P. yn ogystal a J.P. wrth ei enw, a chiciodd row am fod Bowen Rowlands, ac yntau heb ddeall Cymraeg, wedi cael ei benodi'n Gofnodydd Abertawe. Ond un peth ydi bygwth, peth arall ydi gwneud. Felly, mi ddaeth Bowen Rowlands yn ol i'r Tŷ i fwynhau swyn y Senedd fel cynt, a'i lygyd eto ar Fainc y Barnwr.