Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII. LLYFRAU DAFYDD JONES.

Gwr cynhefin yn yr hen amser oedd y gwerthwr llyfrau crwydrol; os nad poblogaidd hefyd. Ceid hwy yn y ffeiriau, y marchnadoedd, a'r gŵyl-fabsantau. Ganddynt hwy y cai y gwreng a'r bonheddig eu halmanaciau a'u cerddi—a'r ddau fath hyn o lenyddiaeth oedd newyddiaduron yr oes honno. A gwerthai'r dosbarth goreu o honynt y llyfrau sylweddol, uwch eu pris. Pan oedd moddion teithio mor brin, ac amser y newyddiaduron heb wawrio, mor ddieithr y rhaid fod rhannau o'r wlad i rannau ereill. Felly caffai'r llyfrwerthydd groeso, beth bynnag am werthiant ar ei lyfrau, oherwydd ei fod yn gludydd hanes un wlad i wlad arall. Fel rheol, yr oedd y gwerthwyr llyfrau yn gyhoeddwyr llawer o'r hyn a werthent.

Er nad hyn oedd galwedigaeth Dafydd Jones, gwnaeth lawer o hyn; ac nid yn unig werthu ei lyfrau ei hun, ond llyfrau wedi eu cyhoeddi gan eraill hefyd. Ar