Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sail erthygl yn Nhraethodydd 1886,[1] credodd Charles Ashton iddo ddechreu cyhoeddi cerddi mor fore a 1723, ac iddo gyhoeddi tair o gerddi,—un yn 1723, un arall yn 1724, a'r drydedd yn 1727. Prin y credaf fod hyn yn wir. Nid yw'r enw Dafydd Jones yn ddigon o sicrwydd dros ddilysrwydd y gosodiad. Yr oedd mwy nag un Dafydd Jones yn y wlad, a Dafydd Jones o Brion yn lenor da. Yr hyn yn gyntaf sy'n ein temtio i ameu yw ieuenctyd y cyhoeddwr; nid oedd eto ond glaslanc, fe allai heb ddechreu cymeryd dyddordeb yn y pethau roddodd gymaint o bleser iddo wedi hynny. Gwedi'r flwyddyn 1727 ni cheir ei enw fel cyhoeddwr un llyfr hyd 1742. Gwir fod cyfnod hir, diwaith o'r fath, yn hollol bosibl; ond anhebyg er hynny a barnu yn ol cysylltiad didor Dafydd Jones â llenyddiaeth, o 1742 hyd ei fedd. Nid ydym yn collfarnu cred Charles Ashton, ond yn unig ddatgan ein amheuaeth. Os oes a all chwalu ein amheuon, a phrofi'r hyn a ymddengys i ni yn anhebyg, croesaw iddo.

Fel llawer o bethau eraill, mae hanes. gwasg Dafydd Jones yn wead o ffeithiau

  1. Tud. 221