Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chwedlau, chwedlau a ysgrifenwyd cyn hyn fel ffeithiau hanes. Canwyd ei chlod fel hen wasg Lewis Morris, y wasg y galwyd ei chyntaf-anedig yn "Dlysau'r Hen Oesoedd." Dywedwyd iddo ei phrynnu gan Lewis Morris, a'i chario ar ei gefn o Fon i Drefriw. Mae peth rhamant yn yr olaf, beth bynnag am haelioni yn y cyntaf. Ei chael yn rhad ac yn rhodd, medd eraill. Methais weled dim yn holl ysgrifeniadau Dafydd Jones yn cydnabod rhodd mor dderbyniol. Ond wrth chwilio hen ysgriflyfrau fu'n eiddo iddo, gwelais a ganlyn wedi ei ysgrifennu* gan arall flynyddoedd wedi ei farw,—

These MSS. were purchased by the Thomas Pennant, Esq., from the Executors of David Jones of Trefriw, one of the first printers in the Principality, and who was presented with a Fount of letters by the celebrated Mr. Lewis Morris."[1]

Ysgrifenwyd yr uchod rywbryd yn flaenorol i 1835, yn yr hon flwyddyn y rhoddwyd yr hen ysgriflyfrau i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yr hyn sydd yn ein taflu i ddyryswch yw,—Ai gwasg Lewis Morris oedd gwasg Bodedyrn? Os ie, pa hawl feddai Lewis Morris ar wasg

  1. Additional MSS. 9864.