Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn ol pob ymddanghosiad yn eiddo gŵr arall? Bu argraffu ym Modedyrn mor ddiweddar a 1760, os nad diweddarach. Trigai Lewis Morris y pryd hwn yn sir Aberteifi, yn ddigon llesg ei gorff, a bu farw yn 1765. A gofiodd am yr hen wasg, oedd anwyl iddo ddeng mlynedd ar hugain cynt, os ei eiddo oedd? Wrth fwrw golwg dros "Dlysau'r Hen Oesoedd," a rhannau o'r llyfrau argraffwyd yn Nhrefriw, hawdd credu mai llythyrennau Lewis Morris a ddefnyddiai Dafydd Jones. Nid oes gennyf farn i'w datgan ar lythyreniaeth gwasg Bodedyrn, am na welais ddalen o lyfr a argraffwyd yno. Os segur fu gwasg Lewis Morris wedi argraffu y Tlysau, os ei rhoddwyd ganddo i Ddafydd Jones, pa esboniad ellir roddi ar na ddarfu i Ddafydd Jones ddechreu argraffu am dros ddeng ar ol marwolaeth ei gymwynaswr? Ein casgliad yw hyn,—mai'r un wasg oedd gwasg Bodedyrn a Threfriw, a honno yn hen wasg Lewis Morris;[1] ond nad yw'r "fount of letters" uchod yn golygu ond yn syml y llythyrennau; i Lewis Morris roddi neu werthu ei wasg i John Rowland Bodedyrn; iddo gadw ei lythyrennau, gan

  1. Gwel ar ddiwedd y Llyfr.