Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai ychydig oeddent; mewn amser di-weddarach iddo eu rhoddi i Ddafydd. Jones Trefriw; ac mewn amser diweddarach drachefn i Ddafydd Jones brynnu'r wasg a llythyrennau John Rowland. Hyn sydd amlwg, mae "Histori yr Iesu Sanctaidd," y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Nhrefriw, wedi ei argraffu â dau fath o lythyrennau, ac un math o'r un faint a delw a llythyrennau Tlysau'r Hen Oesoedd."

Gair ymhellach ar yr amser y dechreuodd argraffu, gan fod un o'n llyfrau safonol yn gamarweiniol ar hyn. Dywed Charles Ashton,—[1]

"Ond nid ydym yn cyfarfod â'i enw fel argraffydd hyd y flwyddyn 1777, pryd yr argraffodd Ddwy o Gerddi Newyddion o waith Elis y Cowper. Ond o'r flwyddyn uchod yn mlaen fe argraffwyd rhan ehelaeth o lenyddiaeth faledawl Cymru yn Nhrefriw."

Mae'r uchod yn anghywir. Nid yn 1777 y dechreuodd argraffu yn Nhrefriw. Ymddengys na welodd Ashton mo" Histori yr Iesu Sanctaidd," yr hwn a argraffwyd. yn Nhrefriw yn 1776, na chwaith y cofnodiad a geir o hono yn Llyfryddiaeth y Cymry; felly nid cerddi Elis Gowper

  1. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t. d. 186.