Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ei gynnyg cyntaf. Yr un mor anghywir yw'r haeriad mai yn Nhrefriw yr argraffwyd rhan ehelaeth o "lenyddiaeth faledawl Cymru," ped fai hynny yn anfri mawr. Os felly, paham na phrofodd Ashton ei osodiad trwy roddi rhestr o'r baledau a gyhoeddwyd yno yn amser Dafydd Jones?

Wedi'r crwydro hyn, ceisiwn roddi rhestr o'r cerddi a'r llyfrau a gyhoeddodd, argraffodd, neu y bu iddo ryw ran ynglŷn â hwynt. Yn eu plith rhestrwn y cerddi y taflasom amheuaeth ar ei gysylltiad â hwynt, hyd oni ellir profi fod ein damcaniaeth yn gywir. Wrth fynd ymlaen, nodwn ein hawdurdod, fel y gallo'r darllennydd brofi pob peth drosto ei hun.

1. (1) CERDD, "Yn cynwys Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad, ac fel ar y diwedd y Cyssylltwyd hwynt mewn gwir Rwymyn Briodas." 1723. (John Rhydderch, Amwythig).

2. (2) CERDD, "Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc o Gybydd a Merch Ifangc, (ar y Don a elwir Loth to Depart neu Anhawdd Ymadael." 1724. (John Rhydderch, Amwythig).

3. (3) Yn adrodd Dull y Farn Ddiweddaf, gan rifo 15 dydd o Aruthredd Rhyfeddol ar ddyfodiad Crist i'n Barnu. (Ar fesur a Elwir