Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syrthiad neu Gwympiad y Dail. Dafydd Jones a'i hail—wnaeth). 1727. (Amwythig).

4. (4) "Peder o Gerddi Diddanol. gyntaf, Carol Plygain ar fesur a elwir Crimson Velvet, 1742. (Gan Dafydd Jones, Antiquary). Yn ail, Carol o fawl i Fair y Forwyn i'w Ganu ar Fesur Tôn Deuair yw Ganu Wyneb y Gwrthwyneb. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd). Yn drydydd, Carol i'r Gwirod ar yr un Mesur. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd).

(1) Y Traethodydd, 1886, t.d. 221. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(2) Y Traethodydd 1886, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(3) Y Traethodydd 1886, t.d. 273. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.
(4) Y Traethodydd 1888, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.

Mae yma bump o "Gerddi Diddanol," ac nid "peder" fel. y nodir, na chwaith dair fel y nodir uchod. Ond nid yw enw Dafydd Jones fel awdwr nac ysgrifennydd wrth y ddwy olaf. Ysgrifennu dwy o'r uchod yn unig a wnaeth Dafydd Jones. Ym Mlodeugerdd Cymry" (1779, t.d. 226—7), nodir Carol Fair fel yr eiddo Thomas Evans, a'r Carol i'r Gwirod fel yr eiddo William Phylip.

5. "Histori Nicodemus Neu yn hytrach Ysgrifen Nicodemus oherwydd na ddethyniodd'