Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(sic) yr Eglwys, ond pedair Efengyl. Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid, ei enw Nicodemus pennaeth yr Iuddewon; Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ad a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai Dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Duw. Canys ni allai neb wneythyr yr Gwyrthiau hyn yr wyt ti yn ei gwneuthyr oni bai fod Duw gyd ag ef, &c.. St. Ioan 3 pen. 1, 2, &c. Ac y mae hefyd lawer o bethau a wnaeth yr Iesu y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y Cynnwysai y byd y llyfrau a Sgrifennid ult. St. Ioan, 21 pen. 2. Os Efengyla neb i chwi amgen na'i hyn a dderbyniasoch, bydded Anathema. Gal. 1. pen. 9. Da yw Mae'n gyd a'r Efengyl Medd Gwyddfarch gyfarwydd, 1206. A osodwyd allan gan Dafydd Jones; Myfyriwr ar hen beth au. Argraphwyd yn Ngwrecsam gan R. Marsh. 1745."

Gwyneb ddalen ryfedd. Pa un ai R. Marsh ynte Dafydd Jones biau'r anglod o'r gwallau, nis gwyddom. Gall mai'r goreu fai eu rhannu rhyngddynt. Wele engraifft bellach O iaith a synwyr y llyfryn. A pha mor garpiog bynnag ei wisg, yr oedd dda ddigon i'w syniadau ofergoelus.

"A hynny a ddywedodd hi (Brenhines. Seba) wrth Selyf ap Dafydd, ac yno y bu y Prenn hwnnw yn gorwedd hyd yr amser y Dioddefodd Crist arno a phan farnodd yr Iddewon Grist i angeu, y dywedodd un or