Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iddewon o ymadrodd Prophwydoliaeth, Cymmerwch Brenn y Brenin sydd yn gorwedd tu allan i'r Ddinas, a gwnewch ohono Groes i Frenin yr Iddewon, ac yna y daethant o'r tu allan i'r Dref a thorrasant y drybedd rann o Trawst ac o hwnnw y gwnaethant Grog yr Arglwydd, o Saith Gufudd ynddi o hyd, a thri chufydd yn ei braich o faint, ac i Summudasant hi hyd y lle a Elwir Calfaria, ac ar honno y Groeshoeliasant Ein Harglwydd ni Iesu Grist er Iechyd ir rhai a gretto ir hwn y mae Anrhydedd a Gogoniant Tragwyddol ganddo. Amen."

Yr oedd y cyhoeddwr yn distaw dybied y ceid a amheuai wir ei lyfr, a rhag-ddarparodd ei amddiffyniad iddo ei hun yn lloches cyn dod o'r ystorm. Wele honno,—

"Fe ddywed rhyw rai (mae'n debyg) mae peth a ddyfeisiais i neu arall yw Efengyl Nicodemus; ond gwybydded y cyfryw rai mai o Lyfr ysgrifen y Dr. Tho. Williams o Drefryw y tynnais i y coppi hwn, or Llyfr Gwyn o Hergest y cadd yntau, yr hyn a ysgrifenodd ef ynghylch y flwyddyn 1596."

A yw'r "Efengyl Nicodemus" hon yn "Llyfr Gwyn Hergest"? Mae'r diweddar Ganon Silvan Evans (Llyfr. Cymry, t.d. 399), yn anwybyddu'r