Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchod, os ei gwelodd; gan roddi i'r llyfr ffynhonell arall; sef,—

O Hen gyfieithiad ydyw, ond wedi ei gyfnewid a'i waethygu gan Dafydd Jones "Nicodemus Gospell, Enprynted at London in Fletestrete at the sygne of the Sonne by Wynkyn de Worde, Prynter unto the moost excellent Pryncesse my Lady the Kynges Moder In the yere of our Lorde God m. ccccc. ix. the Daye of Marche."

Tueddir ni i farnu yn hollol wahanol i'r Canon dysgedig. Mae'r chwedl efengyl hon yn y Llyfr Gwyn Rhydderch," felly rhaid fod y Canon Evans yn anghywir. Ac mae'r Llyfr Gwyn wedi ei ysgrifenu yn flaenorol i'w chyhoeddiad yn Saesneg. Un o hen efengylau Pabaidd, y petheuach ofergoelus hynny a roddai'r Eglwys hon i'w deiliaid yn lle'r gwir oleuni, yw'r efengyl, neu'r chwedl hon. A'n tyb yw nad drwy'r Saesneg y daeth, ond iddi gael ei chyfieithu yn uniongyrchol o'r Lladin i'r Gymraeg. Methasom weled ei bod yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams, ond mae ol llaw y Dr. ar y Llyfr Gwyn.[1] Hawdd y gall fod ar a welsom o honynt. Pabydd selog, dan rith Eglwyswr, oedd ef, ond a ddiarddelwyd yn y diwedd gan y Llysoedd

  1. Penarth MSS. 4 v 5.