Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwysig am ei ragrith. Felly yr oedd efengyl o'r fath hon yn unol â'i chwaeth grefyddol. Hefyd yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams (Caerdydd MSS. 15), ceir rhestr o enwau, wedi ei hysgrifennu gan Ddafydd Jones, y rhai a werthasant y llyfr hwn, ynghyd a'r nifer a werthasant. Ceir copi o honi mewn MSS. oedd unwaith yn eiddo Edward. Llwyd, ond yn awr sy'n eiddo'r Parch. Peris Williams, Gwrecsam, wedi ei ysgrifennu gan Rydderch Lewis ap Owen, yn yr unfed ganrif ar bymtheg.[1] Pa un bynnag ai o'r Saesneg ynte o'r Lladin ei cyfieithwyd, OS oedd y copi welodd Dafydd Jones yn debyg i hwn, mae'n dra amheus a allasai waethygu Cymraeg y chwedl. A thebyg mai at Gymraeg y cyfryw y cyfeiriai'r Canon Silvan Evans. Rhoddwn ran o honi yma er difyrrwch, ac fel y gallo'r darllennydd farnu trosto. ei hun,—

"Yr unfed flwyddyn ar hygain o Amrodraeth Sesar Ymherodr Ryfain / ar ddegfed o dwysogaeth Erod fab erod frenin galalea / y Seithfed dydd o galan ebrill / Sef oedd hyny y 26ain o fis mawrth y 4edd flwyddyn o gonsseiliws Rwffi // 42 o dwyssogaeth yr yffeiriad olympas dann Siosseb a chaeffas . . . . ac

  1. Report on Welsh Manuscripts, Vol. II., part 1, p. 360—3. J. Gwenogfryn Evans.